Dadansoddiad o’r Ffactorau sy’n Cyfrannu at y Cyfraddau Uchel o Ofal yng Nghymru

Ar 31 Mawrth 2018, roedd 6,405 o blant yn derbyn gofal yng Nghymru, bron i 1,900 yn fwy o blant nag oedd yn derbyn gofal yn 2006. Yn ystod y cyfnod hwn, mae mwy a mwy o blant yng Nghymru yn derbyn gofal fesul 10,000 o’r boblogaeth na gweddill y DU, ac mae’r bwlch hwnnw wedi ehangu.

Yng Nghymru, er bod y mwyafrif o Awdurdodau Lleol wedi gweld cynnydd yn nifer a chyfradd y plant sy’n derbyn gofal, mae amrywiad sylweddol; ac mae rhai wedi profi gostyngiad yn nifer y plant sy’n derbyn gofal ers 2014. Gan ddefnyddio data cyhoeddedig, mae’r adroddiad hwn yn ystyried beth allwn ni ei ddweud am y ffactorau sy’n gyrru’r tueddiadau hyn.

Mae’r ffeithluniau canlynol sy’n tynnu ar ein dadansoddiad data yn dangos y mathau o leoliadau y mae plant yng Nghymru ynddynt a ble maen nhw wedi’u lleoli.

(Diweddarwyd yr adroddiad Gorffennaf 2019)

Darllenwch ein holl waith ar blant sy’n derbyn gofal yma.