Sicrhau economi ffyniannus: safbwyntiau o wledydd a rhanbarthau eraill

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r dystiolaeth am ddulliau sydd wedi gwella perfformiad economaidd yn rhai o ardaloedd Ewrop a’r DU.

Gall nodi ardaloedd sy’n gymaradwy â Chymru fod yn broblemus, gan nad yw’n bosibl nac yn ymarferol dod o hyd i hanes economaidd neu lwybr datblygu sy’n cyfateb yn union. Serch hynny, credwn y gall edrych ar leoedd eraill gynnig safbwyntiau a allai fod yn ddefnyddiol yng Nghymru.

Mae’r adroddiad hwn yn gosod peth cyd-destun gan amlygu agweddau allweddol ar economi Cymru, ac yna grynodeb o’r gwersi a ddysgwyd o waith blaenorol. Wedyn mae’n amlygu gwersi ac enghreifftiau o’n detholiad ni o ranbarthau a dinasoedd gan roi sylw i dri phriodoledd allweddol yr economi, sef: i) cynhyrchiant; ii) arloesedd; a iii) sgiliau a dilyniant swyddi.

Mae’r enghreifftiau a gyflwynir yma yn amlygu’r angen am fwy o ymchwil ar rai materion sy’n benodol i Gymru, gan gynnwys sut i gydbwyso blaenoriaethau cymunedau lleol â heriau economaidd cenedlaethol a sut i wella sgiliau.