Ymfudo ar ôl Brexit a Chymru

Statws prosiect Ar Waith

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu dod â rhyddid pobl i symud i’r DU o wledydd yr UE i ben a bydd gan y Bil Mewnfudo arfaethedig oblygiadau sylweddol i economi, cymdeithas a phoblogaeth Cymru.

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn archwilio effeithiau tebygol polisïau ymfudo ar ôl Brexit ar Gymru i nodi amrywiaeth o ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru geisio ymateb i’r heriau a chynyddu’r cyfleoedd y bydd y rheolau mudo newydd yn eu cyflwyno.

Rydym wedi gweithio gyda dau arbenigwr blaenllaw yn y maes, sef Dr Eve Hepburn, cyn-Gymrawd Academaidd yn Senedd yr Alban, a’r Athro David Bell o Ganolfan Newid Poblogaeth Prifysgol Stirling.

Mae ein hadroddiad yn defnyddio data o arolwg blynyddol diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) o oriau ac enillion i fodelu’r effaith ar drothwy cyflog arfaethedig Llywodraeth y DU o £25,600 ar gyfer y llwybr ‘Haen 2’. Ynghyd â chanfyddiadau’r dadansoddiad, mae ein hadroddiad hefyd yn amlinellu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r newidiadau ymfudo arfaethedig. Gan ymateb i hyn, awgrymiadau ar ba anghenion y dylid canolbwyntio arnynt mewn ymdrechion i ddylanwadu ar bolisïau a thrafodaethau Llywodraeth y DU gyda’r UE, a’r ffyrdd y gallai Gweinidogion Cymru ddefnyddio eu pwerau datganoledig yn uniongyrchol i geisio lliniaru rhai o’r risgiau sy’n gysylltiedig â chynigion Llywodraeth y DU.