Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylid gosod terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar gyfer pob ardal breswyl yng Nghymru. Gellir caniatáu terfynau cyflymder uwch drwy eithriad yn unig. Mae hwn yn ddull polisi cwbl newydd ac arloesol. Byddai effeithiolrwydd y mesur hwn yn ddibynnol ar gydymffurfiaeth gyrwyr â’r terfynau cyflymder is. Mae goryrru yn ffenomen gymhleth wedi’i llywio gan nifer o ffactorau seicolegol, cymdeithasol, ac amgylcheddol. Gofynnwyd i WCPP edrych ar y dystiolaeth sy’n sail i nifer o ddulliau ymddygiadol gwahanol i hyrwyddo cydymffurfiaeth gyrwyr.
Rydym yn rhagweld yr allbynnau canlynol:
- Adolygiad tystiolaeth cyflym sy’n edrych ar effeithiolrwydd perthynol dulliau ymddwyn gwahanol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyrwyr â therfynau amser 20 mya
- Trafodaeth grŵp arbenigol i brofi’r canfyddiadau sy’n dod i’r amlwg a dyfnhau dealltwriaeth mewn meysydd penodol.