Opsiynau ar gyfer pysgodfeydd cynaliadwy yng Nghymru a mesurau rheoli stociau pysgota ar ôl datganoli

Statws prosiect Cwblhawyd

Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi eu hymagwedd at bysgodfeydd ar gyfer os/pan mae’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Maent gyda diddordeb penodol mewn cyfleoedd ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys terfynau cwota a di-gwota, er mwyn cyflawni eu ‘cyfradd deg’ o ddyraniadau ac i reoli stociau pysgod er budd cymunedau arfordirol yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn cyd-fynd â’r amcan ehangach o reoli stociau pysgod yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd allbwn yr aseiniad hwn yn adolygiad tystiolaeth gan Griffin Carpenter o’r New Economics Foundation. Bydd yn adeiladu ar ei waith blaenorol ar gyfer y Ganolfan ar oblygiadau Brexit ar gyfer cyfleoedd pysgodfeydd yng Nghymru, sydd ar gael i’w ddarllen yma.