Modelu allyriadau carbon yng Nghymru

Statws prosiect Ar Waith

O ganlyniad i gyfuniad o alw byd-eang cynyddol am dargedau ynni ac allyriadau carbon llym, mae’r broses benderfynu o ran caffael a defnyddio ynni yn gymhleth. Yng nghyd-destun yr ymrwymiad i gael gwared ar allyrru erbyn 2050, hoffai Llywodraeth San Steffan a’r llywodraethau datganoledig ddeall goblygiadau eu penderfyniadau ar bolisïau o ran allyriadau a’r modd mae’r ddwy agwedd yn ymwneud â’i gilydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn inni ddyfeisio ffordd o ddisgrifio effaith ei pholisïau ar faterion carbon, gan gynnwys asesu sut y gallai fireinio arferion da trwy drafodaethau gydag arbenigwyr academaidd. Mae Llywodraeth Cymru yn arbennig o awyddus i ddeall sut y gall dulliau modelu neu gyfrif allyriadau ar draws ei hadrannau gynyddu’r ymwybyddiaeth o effaith polisïau ar faterion carbon.

I ofalu bod ein gwaith yn gysylltiedig â llunio polisïau o’r dechrau, rydyn ni’n canolbwyntio ar sector penodol, sef tai, adeiladau a’r isadeiledd. Byddwn ni’n penodi arbenigwyr i adolygu tystiolaeth ynghylch y cwestiynau canlynol:

  1. Pa fodelau sectoraidd sydd ar gael a sut y gallan nhw helpu i ddewis polisïau a chodi ymwybyddiaeth bod angen llai o allyriadau? Pa mor gyson yw modelau neu ddulliau gwahanol â’i gilydd ac i ba raddau maen nhw’n gorgyffwrdd?
  2. Pa ddulliau sydd ar gael i nodi’r carbon mae amcangyfrif y bydd yn deillio o benderfyniadau llai ar bolisïau. Sut mae llywodraethau a gwledydd eraill a diwydiannau preifat wedi defnyddio’r rheiny?
  3. Sut mae defnyddio canlyniadau modelau sectoraidd neu fodelau sy’n seiliedig ar bolisïau i lywio targed ehangach Net Zero? Pa opsiynau sydd ar gael i lunio dull cydlynol a chyfun ar draws y llywodraeth?

Byddwn ni’n ystyried y cwestiynau hyn i weld sut maen nhw’n effeithio ar lunio a defnyddio polisïau er targedau datgarboneiddio.