Llunio Polisïau wedi’u Llywio gan Dystiolaeth ar y lefel leol

Statws prosiect Ar Waith

Rydym yn gwneud ymchwil ar ddefnyddio tystiolaeth ym maes llunio polisïau, dylunio a gweithredu gwasanaethau ar y lefel leol. Cyflwynwyd amrywiaeth o fentrau, ar adegau gwahanol ac mewn lleoedd gwahanol ledled y DU, er mwyn cynyddu’r defnydd o dystiolaeth i lywio polisïau lleol ac i wella perfformiad gwasanaethau cyhoeddus ar y rheng flaen. Bydd ein hymchwil yn darparu asesiad manwl o’r hyn a ddysgwyd o’r modelau ymgysylltu hyn. Byddwn yn archwilio’r mathau o wybodaeth sy’n bwysig, yr hyn sy’n cyfrif fel tystiolaeth i wahanol gyrff a sut caiff hyn ei baratoi, ei gyrchu a’i ddefnyddio ym maes llunio ac arferion penderfyniadau.

Byddwn yn adeiladu ar ganfyddiadau’r prosiect er mwyn adolygu sut rydyn ni’n ymgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus, a sut rydyn ni’n asesu eu hanghenion tystiolaeth ac yn ceisio eu bodloni. Byddwn yn peilota’r ymagwedd hon sydd wedi’i llywio gan ddamcaniaethau â dau bwnc perthnasol i gymunedau polisïau lleol yng Nghymru ac yn asesu’r effeithiolrwydd o ran (a) cyfranogiad rhanddeiliaid, (b) polisïau ac arferion lleol a (c) canlyniadau i gymunedau.