Gwella Gwaith Trawsbynciol y Llywodraeth

Statws prosiect Cwblhawyd

Mae strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, ‘Ffyniant i Bawb’, yn ceisio ysgogi proses o integreiddio a chydweithio ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi pwysleisio y dylid cyflawni ymrwymiadau’r strategaeth mewn ffordd fwy deallus a chydgysylltiedig sy’n croesi ffiniau traddodiadol. Mae’r her i gydgysylltu’n well ar draws meysydd polisi a ffiniau gwasanaethau cyhoeddus yn un sy’n wynebu llawer o lywodraethau, ac mae iddi hanes hir. Fel rhan o’r prosiect hwn, rydym yn ceisio cymhwyso’r dystiolaeth sydd ar gael o effeithiolrwydd amryw systemau cydgysylltu ac integreiddio a brofwyd ar draws llywodraethau gwahanol yn ystod y blynyddoedd diwethaf er mwyn llywio datblygiadau o fewn ac ar draws Llywodraeth Cymru.