Goblygiadau’r cyfnod pontio o’r Ewrop i sectorau economaidd allweddol

Statws prosiect Ar Waith

Yr Undeb Ewropeaidd yw’r partner masnachu rhyngwladol mwyaf gwerthfawr yn economaidd ar gyfer Cymru a’r DU, gan gyfrif am 43% a 52% o gyfanswm allforion a mewnforion y DU yn eu tro yn 2019. Yn dilyn ei hymadawiad o’r UE, mae Llywodraeth y DU wedi dechrau trafod cytundebau masnach rydd gyda’r UE a gyda gwledydd eraill ledled y byd.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd yn awyddus i ddeall sut mae sectorau allweddol economi Cymru yn debygol o gael eu heffeithio gan y newidiadau a sut y dylai hyn lywio trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU. Mae ein gwaith yn cyflwyno tystiolaeth o adolygiad llenyddiaeth, cyfweliadau â chyrff a chynrychiolwyr sectoraidd, a bord gron arbenigol.