Goblygiadau polisi ymfudo’r DU ar economi Cymru ar ôl Brexit

Statws prosiect Ar Waith

Gan adeiladu ar ein gwaith blaenorol ar bolisi mewnfudo ar ôl Brexit, mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar effaith debygol polisïau ymfudo Llywodraeth y DU ar economi Cymru. Yn benodol, rydym yn gweithio gyda’r Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain, i fodelu effeithiau yr argymhellion o adroddiad Pwyllgor Cynghori ar gyfer Ymfudo (MAC) 2018 a phapur gwyn dilynol Llywodraeth y DU.

Cynigiodd adroddiad MAC, pan fydd symud rhydd yn dod i ben ar ôl cyfnod pontio Brexit, y dylai dinasyddion yr UE gael eu trin yr un peth â dinasyddion nad ydynt o’r DU o ran ymfudo sy’n ymwneud â gwaith. Rydym yn asesu goblygiadau hyn ar gyfer y farchnad lafur ac economi Cymru.