Dulliau o Alluogi Unigolion i Gamu Ymlaen yn eu Swyddi mewn Sectorau Sylfaenol Allweddol

Statws prosiect Ar Waith

Mae sectorau sylfaenol yr economi yn darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sy’n hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, megis cyfleustodau, prosesu bwyd, manwerthu a dosbarthu, iechyd, addysg, llesiant, gofal cymdeithasol a seilwaith. Er ein bod yn dibynnu ar y gwasanaethau a ddarperir ganddynt, mae’n aml yn anodd i’r bobl sy’n gweithio yn y sectorau hyn wella eu hincwm ac ansawdd eu bywyd. Fodd bynnag, mae tystiolaeth glir y gall cynnig cyfleoedd da i gamu ymlaen mewn swydd helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn gwaith, gwella cynhyrchiant isel ac annog cyflogeion i gyflawni eu rôl ddinesig drwy fuddsoddi yn eu cymunedau lleol a’r gweithlu. Yn yr aseiniad hwn, rydym yn nodi modelau effeithiol ar gyfer camu ymlaen mewn swydd a sut y gallent fod yn ddefnyddiol pan gânt eu defnyddio mewn sectorau sylfaenol, gan ddechrau gyda’r sector gofal.