Diwygio Cyfraith ac Arferion Etholiadol

Statws prosiect Ar Waith

Cafodd pŵer dros etholiadau ei ddatganoli i Gymru drwy Ddeddf Cymru 2017. Ers hynny, mae Gweinidogion Cymru wedi cychwyn ar raglen diwygio etholiadol sydd fwyaf nodedig am gynnig yr etholfraint i bobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau llywodraeth leol. Gwnaeth y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) hefyd ddarparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith diwygio etholiadol yn y dyfodol, yn enwedig o ran cofrestru awtomatig a defnydd dewisol o bleidlais sengl drosglwyddadwy mewn etholiadau llywodraeth leol.

Yng Nghymru, mae agenda barhaus i wella amrywiaeth mewn democratiaeth, o ran helpu ystod ehangach o bobl i ymgeisio am swydd etholedig a sicrhau bod profiad pob pleidleisiwr o’r system etholiadol yn gadarnhaol, ni waeth beth fo’i gefndir.

Gofynnwyd i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymchwilio i arferion etholiadol ledled y byd i lywio camau posibl y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i wneud etholiadau’n fwy diogel, yn fwy cynhwysol, yn dryloyw ac yn atebol i’r etholwyr a’r ymgeiswyr. Y pynciau cyffredinol yw:

  • Diogelwch ymgeiswyr a’u cynrychiolwyr, gan geisio sicrhau bod darpar wleidyddion yn teimlo’n ddiogel wrth ddewis ymgeisio i gael eu hethol
  • Arferion etholiadol arloesol, gan archwilio pa ddatblygiadau arloesol y gellid eu cyflwyno i ennyn diddordeb pleidleiswyr, e.e. pleidleisio’n gynnar; pleidleisio drwy’r post; pleidleisio y tu allan i’r cyffin neu pleidleisio’n hyblyg
  • Cyllid a gwariant ar ymgyrchu, gan archwilio dulliau o wella didwylledd a thryloywder

Ar gyfer pob pwnc, rydym yn nodi enghreifftiau perthnasol o sut mae gwledydd eraill yn mynd i’r afael â’r materion hyn ac yn syntheseiddio’r dystiolaeth i ddysgu beth allai weithio yng Nghymru.