Datgarboneiddio Cymru: Ynni, Diwydiannau, Tir

Statws prosiect Ar Waith

Yn sgîl addewid Llywodraeth Cymru i gael gwared ar allyriadau carbon erbyn 2050 a chanlyniad cynhadledd COP26 yn Glasgow, mae’n amlwg y bydd ymdrechion i ddatgarboneiddio ein heconomi a’n cymdeithas yn fwyfwy pwysig i bolisïau a thrafodaethau gwladol dros y blynyddoedd a’r degawdau sydd i ddod.

Er ein bod yn gwybod ble y dylen ni fod i osgoi effeithiau gwaetha’r newid hinsoddol, mae’n aneglur o hyd sut y byddwn ni’n mynd yno a pha fath o gymdeithas a welwn ni yn y pen draw. Hoffen ni hwyluso trafodaeth ymhlith arbenigwyr dethol i ystyried y cwestiynau hyn a’r goblygiadau i bolisïau ac arferion yng Nghymru.

Oherwydd economi a daearyddiaeth Cymru, hoffen ni ganolbwyntio ar ddau faes yn y lle cyntaf. Yn gyntaf, datgarboneiddio ynni a diwydiannau trwm. I’r perwyl hwnnw, bydd angen defnyddio trydan neu hydrogen mewn prosesau diwydiannol ynghyd â gwario llawer ar ynni adnewyddadwy, batris ac atomfeydd. O’i wneud yn dda, gallai ‘twf gwyrdd’ hwyluso datgarboneiddio heb newidiadau cymdeithasol neu economaidd ysgubol.

Mae’n aneglur o hyd a fydd modd parhau i ddefnyddio adnoddau i’r un graddau dros y tymor hir, gan awgrymu y gallai fod terfynau i dwf gwyrdd yn y pen draw. Mae hyrwyddwyr ‘Degrowth’, yn ogystal â modelau economaidd megis ‘economeg doesen’, am weld cymdeithas sy’n cadw at ffiniau’r blaned yn hytrach na chynhyrchu a defnyddio adnoddau gymaint ag y bo modd. I wneud hynny, bydd angen newidiadau mawr a phellgyrhaeddol a fydd yn peri amddifadedd i lawer.

Hoffen ni drafod goblygiadau’r modelau hynny mewn modd gonest ac agored i ddeall eu gwahaniaethau, eu goblygiadau i’n cymdeithas yng Nghymru ac unrhyw bethau a allai fod yn gyffredin.

Yr ail bwnc yr hoffen ni ei ystyried yw defnyddio tir a newid ei ddibenion. Mae amaeth yn bwysig i ddiwylliant Cymru. Mae’n rhan allweddol o’r economi wledig ac yn gadarnle i’r Gymraeg gan fod cymunedau amaethyddol yn fwy tebygol o siarad yr iaith na chymunedau eraill ledled y wlad. Gallai newidiadau megis ailwylltio, neu thalu ffermydd am gynhyrchu nwyddau amgylcheddol yn hytrach na rhoi taliadau sylfaenol, fod yn niweidiol iawn i’r cymunedau hynny.

Serch hynny, mae cydnabyddiaeth bod angen i amaeth newid. Mae ailwylltio, coedwigo ac adfer cynefinoedd yn cynnig cyfleoedd i gynyddu bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau, a bydd modd eu defnyddio i wella amddiffynfeydd rhag llifogydd a lliniaru allyriadau a rhai o effeithiau’r newid hinsoddol.

Mae lle i drafod faint y gallwn ni ei gyflawni heb niweidio cymunedau amaethyddol. Hoffen ni hwyluso trafodaeth am sut mae cytuno ar y newidiadau hyn a’u rheoli i hyrwyddo nwyddau amgylcheddol a diogelu bywoliaethau amaethyddol a’r cymunedau y maen nhw’n eu cynnal.