Datblygu gweithredu ar draws rhwydwaith ‘What Works’

Statws prosiect Ar Waith

Gan adeiladu ar ein gwaith i gynyddu effaith rhwydwaith ‘What Works’ ledled y DU, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cael cyllid gan yr ESRC i weithio gyda’r Athro Jonathan Sharples yn EEF a Chanolfannau eraill ‘What Works’ i roi’r dystiolaeth a’r syniadau diweddaraf ynghylch gweithredu ar waith – sut defnyddir tystiolaeth i wneud penderfyniadau – i rwydwaith ‘What Works’.

Mae Canolfannau ‘What Works’ yn wynebu heriau tebyg o ran gweithredu, ac mae’r egwyddorion, y dystiolaeth a’r strategaethau sy’n sail i weithredu yn effeithiol yn aml yn drosglwyddadwy ar draws meysydd gwahanol. Bydd y prosiect yn dechrau datblygu seilwaith cyffredin ar gyfer gweithredu ym mhob rhan o’r rhwydwaith, gan gynnwys modelau, canllawiau, adnoddau, capasiti ac iaith gyffredin.

Drwy’r prosiect hwn, rydym yn gobeithio cyflawni’r canlynol:

  • Dealltwriaeth gryfach o weithredu a gwyddorau gwella, a sut mae’n gysylltiedig â gwaith Canolfannau.
  • Trosglwyddo gwybodaeth a strategaethau rhwng Canolfannau, a hwylusir gan y ddealltwriaeth honno a rennir.
  • Creu offer ac adnoddau ymarferol sy’n gallu cefnogi gwaith gweithredu’r Canolfannau eu hunain ynghyd â gwaith eu defnyddwyr.
  • Mwy o gynhyrchiant a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth o ganlyniad i arferion a phrosesau gweithredu gwell.
  • Gosod sylfeini ar gyfer cydweithio ymhellach, gan gynnwys prosiectau gweithredu ar y cyd e.e. themâu trawsbynciol.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch ag Emma Taylor-Collins, Uwch-swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.