Datblygiad arweinyddiaeth y sector gyhoeddus – darpariaeth bresennol ac ymagwedd ryngwladol

Statws prosiect Cwblhawyd

Mae Prif Weinidog Cymru eisiau asesiad annibynnol o sut gall gwasanaethau cyhoeddus Cymru sicrhau bod datblygiad arweinyddiaeth ar gyfer eu staff yn paratoi arweinwyr y presennol a’r dyfodol i fod yn effeithiol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod arweinwyr y dyfodol gyda phrofiad eang o bob rhan o’r sector cyhoeddus, yn ogystal â sgiliau ac ymddygiadau i ymateb i heriau polisi’r presennol a’r dyfodol yng Nghymru.

Bydd y gwaith hwn yn anelu at gael darlun mwy llawn o’r ddarpariaeth datblygiad bresennol ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal ag ystyried beth sydd wedi gweithio yn rhyngwladol, er mwyn llywio meddylfryd Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus.