Cysylltu Cymunedau: Meithrin Perthnasoedd

Statws prosiect Ar Waith

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd a Gofal Cymdeithasol Cymru ar brosiect pedwar mis a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd i gynyddu cysylltiadau rhwng y cyngor, iechyd y cyhoedd a’r byd academaidd. Bydd y prosiect yn archwilio’r mecanweithiau, cydberthnasau a rhwydweithiau sydd eu hangen i gefnogi ac ariannu ymgysylltiad ymchwil o ansawdd uchel yng Nghaerdydd.

Gan ystyried y rhwystrau a amlygwyd gan ymchwil flaenorol, bydd y prosiect yn dechrau gwneud cysylltiadau rhwng bydoedd llywodraeth leol, iechyd cyhoeddus ac ymchwil academaidd er mwyn galluogi sefydlu system barhaol.

Rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021, mae’r prosiect hwn yn cynnwys tri gweithdy strwythuredig ac arolwg ar-lein gyda staff mewn gwasanaethau plant yn y cyngor.

Gweithdy 1: Ble rydym am ei gyrraedd? (30 Tachwedd 2020)

Canolbwyntiodd hwn ar sut olwg a allai fod ar lwyddiant, gan gynnwys mwy o lythrennedd ymchwil, ymarfer ar sail tystiolaeth, gwaith myfyrio, a gweithgarwch ymchwil.

Gweithdy 2: Cefnogi defnyddio ymchwil (16 Rhagfyr 2020)

Bydd hwn yn canolbwyntio ar y meysydd llwyddiant allweddol sy’n codi o Weithdy 1, tystiolaeth ar effeithiolrwydd dulliau gwahanol, modelau presennol o weithio mewn partneriaeth rhwng y cyngor a Phrifysgol Caerdydd, a thrafodaeth o’r hyn y mae hyn yn ei olygu i sicrhau llwyddiant.

Gweithdy 3: Y camau nesaf (6 Ionawr 2021)

Bydd hwn yn adeiladu ar y ddau weithdy blaenorol a chanfyddiadau’r arolwg i ganolbwyntio ar y cydberthnasau, y rhwydweithiau a’r mecanweithiau y mae angen eu sefydlu i symud pethau ymlaen yng Nghaerdydd.

Ochr yn ochr â’r gweithdai hyn, cynhelir arolwg hefyd gyda staff Cyngor Caerdydd ym mis Rhagfyr 2020 i gasglu barn ar gydberthnasau â’r byd academaidd ac iechyd y cyhoedd ac i ddeall yr hyn a ddysgwyd o’r gweithdy cyntaf ar sut olwg a allai fod ar lwyddiant ac adeiladu arno.

Y dyhead yw y bydd y gwaith hwn yn arwain at gydweithredu rhwng partneriaid yn y dyfodol.