Cyrhaeddiad addysg: Ymateb i bandemig y coronafeirws

Statws prosiect Ar Waith

Mae pandemig y coronafeirws wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau addysgol presennol ledled y byd. Mae modelu effaith cau ysgolion yn Lloegr yn awgrymu y gallai gwerth deng mlynedd o ymdrechion i gau’r bwlch cyrhaeddiad fod wedi’i wrthdroi gan gau ysgolion yn ddiweddar. Yn yr un modd, canfu asesiadau o ddisgyblion Blwyddyn 7 yn Lloegr ym mis Medi 2020 eu bod 22 mis ar gyfartaledd y tu ôl i’r lefelau cyrhaeddiad disgwyliedig. Mae’n debygol y bydd yr effeithiau ar ddisgyblion Cymru ar raddfa debyg.

Mewn ymateb i effaith y pandemig ar addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, gan ei defnyddio i ddarparu cyllid i ysgolion i gynyddu’r gallu i gefnogi dysgwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf gan gau ysgolion.

Bydd llwyddiant y dull hwn yn cael ei effeithio gan y pethau canlynol (ymhlith pethau eraill):

  • Y ffordd y cyflwynir addysgu a dysgu cyfunol;
  • Dulliau a modelau cymorth ‘dal i fyny’ a ddarperir; a
  • Dylunio, darparu a derbyn datblygiad proffesiynol ar gyfer gweithwyr addysg newydd a phresennol.

Yng ngoleuni hyn, bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu briffiau polisi ar bob un o’r tri phwnc hyn, gyda’r nod o sicrhau bod ymdrechion Llywodraeth Cymru i gefnogi’r system addysg i ymateb i heriau pandemig y coronafeirws yn cael eu llywio gan y dystiolaeth ac arbenigedd gorau sydd ar gael sy’n gysylltiedig â’r tair blaenoriaeth hyn.

Er mwyn datblygu a chefnogi’r gwaith o weithredu’r canfyddiadau yn ymarferol yng Nghymru, yn ogystal ag archwilio sut y byddai ymyriadau a nodwyd yn yr adolygiadau yn rhyngweithio â pholisi ac arfer cyfredol ac arfaethedig, bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru hefyd yn cynnal nifer fach o weithdai gydag arweinwyr consortia rhanbarthol, ac o bosib gydag arweinwyr ysgolion, i drafod canfyddiadau’r briffiau polisi yng nghyd-destun ysgolion yng Nghymru, yn ogystal ag ymyriadau polisi cyfredol ac arfaethedig.