Cynyddu Effaith Rhwydwaith What Works ledled y DU

Statws prosiect Ar Waith

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda What Works yn yr Alban, Prifysgol y Frenhines Belfast, y Gynghrair dros Dystiolaeth Ddefnyddiol ac amrywiaeth o Ganolfannau What Works i gynyddu effaith y rhwydwaith What Works ar draws y Deyrnas Unedig, mewn prosiect sy’n cael ei ariannu gan yr ESRC.

Mae’r prosiect yn cynnwys cynnal cyfres o uwch-gynadleddau ar gyfer llunwyr polisi a gwasanaethau cyhoeddus ar draws y gwledydd datganoledig, sef Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd yr uwch-gynadleddau hyn, a gynhelir rhwng Tachwedd 2018 a Medi 2019, yn canolbwyntio ar dystiolaeth a gynhyrchwyd gan Ganolfannau What Works sy’n ymdrin â materion sy’n flaenoriaethau i’r gweinyddiaethau datganoledig.

Nodau’r prosiect yw:

Rhannu gwybodaeth a’r hyn a ddysgir ar draws Canolfannau What Works

Annog dysgu ar draws awdurdodaethau a phrofi ffyrdd y gall Canolfannau What Works ymgysylltu’n effeithiol â gweinyddiaethau datganoledig

Gwella mynediad at allbwn What Works ar gyfer llunwyr polisi a gwasanaethau cyhoeddus mewn gweinyddiaethau datganoledig

Cynhaliwyd pum uwch-gynhadledd hyd yma, ar y meysydd polisi canlynol:

  • Uwch-gynhadledd Digartrefedd Ieuenctid, Casnewydd (Tachwedd 2018): Dan ofal Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, daeth cynrychiolwyr o awdurdodau lleol ledled Cymru, ynghyd ag ymarferwyr digartrefedd ieuenctid, ynghyd i glywed gan Arsyllfa Canada ar Ddigartrefedd, Canolfan Llesiant What Works ar Effaith Digartrefedd, a Llamau ar dystiolaeth ynghylch atal digartrefedd ieuenctid.
  • Uwch-gynhadledd What Works: Y blynyddoedd cynnar, Belfast (Chwefror 2019): Bu Cydweithfa Campbell ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast yn gwahodd ymarferwyr, academyddion a llunwyr polisi i glywed gan Ganolfannau What Works, yr Education Endowment Foundation, yr Early Intervention Foundation, a NICE, ynghyd ag ymchwilwyr lleol o Ogledd Iwerddon, ynghylch tystiolaeth gysylltiedig â’r blynyddoedd cynnar. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y blog hwn o’r digwyddiad.
  • Plant a phobl ifanc: defnyddio ymchwil a thystiolaeth i greu newid, Glasgow (Ebrill 2019): Daeth What Works yr Alban â llunwyr polisi ac ymarferwyr ynghyd o’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon i drafod tystiolaeth gysylltiedig â dulliau cysylltiedig â lle o ymdrin â chanlyniadau plant.
  • Uwch-gynhadledd What Works: Iechyd meddwl ieuenctid, Belfast (Mai 2019): Cynhaliwyd yr uwch-gynhadledd hon gan Gydweithfa Campbell ym Mhrifysgol y Frenhines, Belfast, ac roedd yn cynnwys sefydliadau trydydd sector, academyddion a llunwyr polisi, gyda chyflwyniadau gan Lesiant What Works, NICE, a Gofal Cymdeithasol Plant What Works, yn ogystal ag ymarferwyr ac ymchwilwyr lleol, ar achosion, ataliaeth a thriniaeth i bobl ifanc sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.
  • Mae’r blog hwn yn amlygu’r pwyntiau dysgu allweddol o’r digwyddiad.
    Uwch-gynhadledd Canolfannau What Works – Perfformiad economaidd lleol, Caerdydd (Mehefin 2019): Yn yr uwch-gynhadledd hon, oedd yn cynnwys academyddion a llunwyr polisi o Gymru, clywsom gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Twf Economaidd Lleol What Works, ac ymchwilwyr eraill ynghylch tystiolaeth gysylltiedig â heriau economaidd yng Nghymru. Gallwch ddilyn adegau allweddol y diwrnod yma.

Cynhaliwyd bwrdd crwn hefyd ym mis Hydref 2019 yn Llundain, a gynhaliwyd gan y Gynghrair ar gyfer Tystiolaeth Ddefnyddiol, i rannu dysgu o’r prosiect hwn ag uwch gynrychiolwyr o Ganolfannau Beth sy’n Gweithio, gweinyddiaethau datganoledig, yr ESRC a Swyddfa’r Cabinet. Cyhoeddir trosolwg o’r negeseuon allweddol a drafodir yn y ford gron hon ar y dudalen hon. Cyhoeddir gwerthusiad o’r prosiect cyfan yn gynnar yn 2020.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, cysylltwch ag Emma Taylor-Collins, Uwch-swyddog Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.