Cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru

Statws prosiect Ar Waith

Mae Gweinidogion wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gynnal tri darn o waith sy’n rhoi arbenigedd a thystiolaeth annibynnol i lywio’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywedd (GER), a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd yn 2018:

  • Adolygiad rhyngwladol o bolisïau ac arferion cydraddoldeb rhywedd;
  • Gweithdy arbenigol i archwilio’r hyn y gall Cymru ei ddysgu am bolisïau ac ymarfer cydraddoldeb rhywedd o wledydd Nordig; ac
  • Adolygiad tystiolaeth o ddulliau effeithiol o gyllidebu ar sail rhyw.

Gwnaethom gyhoeddi ein hadolygiad rhyngwladol o bolisïau ac arferion cydraddoldeb rhywedd yn 2018 (Parken, 2018). Nododd hyn fod gwledydd Nordig yn arwain y ffordd o ran rhoi polisïau ar waith gyda’r bwriad o hyrwyddo cydraddoldeb rhywedd.

Yn sgil hyn, gofynnodd gweinidogion i’r Ganolfan hwyluso digwyddiad a fyddai’n galluogi swyddogion Llywodraeth Cymru i drafod y dulliau hyn gydag arbenigwyr academaidd blaenllaw ac uwch lunwyr polisïau o wledydd Nordig.

Mae’r adroddiad ar gyllidebu ar sail rhyw wedi’i gynnal gan Angela O’Hagan ac Emanuella Laue Christensen ym Mhrifysgol Caledonian Glasgow. Mae’n crynhoi tystiolaeth ar gyllidebu ar sail rhyw o ystod o brofiadau rhyngwladol ar wahanol lefelau llywodraeth.