Codi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 18 oed yng Nghymru

Statws prosiect Ar Waith

Yn Lloegr, codwyd oedran gorfodol i gyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant i 17 oed yn 2013 ac wedyn i 18 oed yn 2015. Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, oedran gadael yr ysgol yw 16. Mae’r syniad o godi oedran cyfranogi mewn addysg neu hyfforddiant yn ennill ei blwyf yng nghyd-destun yr Alban, yn ogystal ag yng Nghymru.

Mae gwledydd sydd wedi codi oedran cyfranogi yn ystod y blynyddoedd diwethaf (gan gynnwys nifer o daleithiau UDA ac Awstralia yn ogystal â Lloegr) wedi dadlau y byddai gweithlu â chymwysterau gwell yn gwella allbwn a pherfformiad economaidd mewn marchnad economaidd sy’n dod yn fwyfwy rhyngwladol. Mewn rhai achosion, cefnogwyd hyn gan agenda gynhwysiant, gydag ymrwymiad y byddai gorfodi cyfranogiad parhaus mewn addysg (neu hyfforddiant) am gyfnodau hwy yn helpu i leihau anghydraddoldebau cymdeithasol ac economaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i archwilio goblygiadau dilyn y polisi hwn yng Nghymru, gan gynnwys sut y gallai ryngweithio â’r diwygiadau parhaus i oedran ysgol a darpariaeth ôl-16 yng Nghymru, ac ystyriaeth o polisïau amgen sy’n canolbwyntio ar leihau gadael yr ysgol yn gynnar yn hytrach na pholisïau sy’n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i bobl ifanc barhau yn y system addysg am gyfnodau hwy.

Er mwyn archwilio’r materion uchod, rydym wedi comisiynu adolygiad llenyddiaeth bwrdd gwaith i edrych ar dystiolaeth ryngwladol ar fuddion a heriau cynyddu’r oedran cyfranogi, yn ogystal â pholisïau amgen. Ategir hyn gan ddadansoddiad meintiol i fodelu effaith codi’r oedran cyfranogi yng Nghymru. Er mwyn deall sut y byddai’r polisi hwn yn rhyngweithio â diwygiadau polisi cyfredol a chynlluniedig yng Nghymru, cynhelir nifer fach o gyfweliadau â rhanddeiliaid allweddol yn Llywodraeth Cymru ac yn y sector addysg ehangach.