Cefnogi gwelliant mewn byrddau iechyd

Statws prosiect Cwblhawyd

Mae ceisio atal neu newid tanberfformiad mewn sefydliadau iechyd yn dipyn o her, ac mae llawer o’r llenyddiaeth academaidd yn canolbwyntio ar drafodaethau cyffredinol a haniaethol. Mae’r prosiect hwn yn cyfuno gwybodaeth gan academyddion ac ymarferwyr arbenigol am yr hyn sy’n effeithiol, ac o dan ba amodau, wrth gefnogi’r bwrdd iechyd.

Mae deall sut i ymyrryd yn effeithiol yn bwysig i lunwyr polisïau ac arweinwyr gwasanaethau iechyd fel ei gilydd; mae hefyd o ddiddordeb ehangach i’r cymunedau y mae ein gwasanaethau iechyd yn eu gwasanaethu.