Cael y Canlyniadau Gorau Posibl o Brosesau Caffael a Chydweithio ar gyfer Covid-19 a thu hwnt: Gwersi o’r Argyfwng

Statws prosiect Ar Waith

Caffael sydd i’w gyfrif am £100bn (47%) o wariant awdurdodau lleol (loG,2018). Mae sicrhau bod yr adnoddau hyn yn cael yr effaith gymdeithasol ac economaidd fwyaf yn hanfodol er mwyn ymateb yn hyblyg i’r argyfwng, cynnal cydnerthedd cymunedol, a helpu busnesau lleol i oroesi.

Mae llenyddiaeth sydd wedi dod i’r amlwg yn dynodi bod caffael er mwyn cael gwerth ychwanegol yn angenrheidiol ac yn bosibl (NAO,2016; Amey,2019; PWC,2019; NCVO,2020; LGA,2017; WCPP,2019). Mae hyn yn cyd-fynd â’r ymdeimlad ar lawr gwlad lle mae galw brys am newid. Wrth i awdurdodau lleol newid ac addasu mewn ymateb i Covid-19, a’r angen i gael gafael ar adnoddau gyflymu, mae’r ymchwil hon yn gofyn sut gall awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cael y gwerth mwyaf posibl o’r hyn y maent yn ei gaffael?

Bydd tîm academaidd arbenigol, drwy gydweithio’n agos â rhanddeiliaid a gyda chefnogaeth partneriaid prosiect pwysig, yn defnyddio cyfres gadarn a hyblyg o ddulliau (arolygon arhydol, cyfweliadau, gweithdai/gweminarau, mân-ymchwiliadau, astudiaeth e-Delphi) i roi dadansoddiadau traws-swyddogaethol, rhyng-sectoriadd ac aml-lefel manwl o arferion caffael a pherfformiad. Bydd hyn yn nodi ffactorau hanfodol ar gyfer llwyddiant a methiannau penodol ar draws yr holl system. Yn hollbwysig, bydd yn ystyried sut mae pethau’n amrywio mewn gwahanol awdurdodau lleol â nodweddion gwahanol. Dyma’r astudiaeth gyntaf o’i math oherwydd ei phwyslais a’i chyrhaeddiad, a hynny ar adeg pan mae gwir ei hangen.

Bydd cynllun cyfathrebu cryf yn galluogi syniadau, data a chyngor cyfreithiol i ddod ynghyd er mwyn creu atebion caffael ymarferol sy’n rhoi gwerth ychwanegol, yn ogystal ag ysgogi perthnasoedd rhwng rhanddeiliaid sy’n cyfuno galluoedd cyfannol mewn ymateb i heriau ar hyn o bryd. Bydd datblygu ‘teclyn effaith caffael’ yn hwyluso galluoedd dadansoddi data newydd gan gyflymu arloesedd a gwelliannau yn ymarferol, perfformiad a phenderfyniadau strategol.