Brocera gwybodaeth a chyrff brocera gwybodaeth

Statws prosiect Ar Waith

Bu twf sylweddol yn nifer y cyfryngwyr tystiolaeth neu’r cyrff brocera gwybodaeth sydd rhwng ymchwil a llywodraeth ac sy’n ceisio pontio’r ‘bwlch’ ymddangosiadol rhwng tystiolaeth a pholisi. Mae mwy ohonynt wedi codi oherwydd tybiaeth allweddol y mudiad llunio polisïau wedi’u llywio gan dystiolaeth (EIPM): y bydd mwy o dystiolaeth yn arwain at bolisïau gwell. Gellir ystyried Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gorff brocera gwybodaeth. Mae ein hymchwil yn ceisio deall sut a pham mae’r cyrff hyn wedi codi mewn gwahanol lywodraethau a thraddodiadau gwleidyddol, beth maen nhw’n ei wneud, y strategaethau y maen nhw’n eu defnyddio i lywio polisïau a pha effaith y maen nhw’n ei chael; gan gynnwys yr effaith y mae cyrff fel y rhain a’r mudiad EIPM ehangach yn ei chael ar atebolrwydd a democratiaeth. Bydd y canfyddiadau yn llywio sut mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gweithio ac yn ei threfnu ei hun, yn llenwi bwlch yn y wybodaeth sy’n ymwneud â chyrff brocera gwybodaeth, ac yn cyfrannu at ein dealltwriaeth o rôl tystiolaeth mewn polisi.

Bydd yr ymchwil yn cyfrannu adolygiad ansoddol o’r llenyddiaeth ar frocera gwybodaeth a chyrff brocera gwybodaeth a chymhariaeth fanwl, feirniadol â chyrff mewn rhannau eraill o’r byd (er enghraifft, yng Nghanada, De Affrica a gwledydd eraill) sy’n gwneud gwaith tebyg i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.