Atgyfnerthu Gwydnwch Economaidd Economi Cymru

Statws prosiect Cwblhawyd

Mae’r cysyniad o wydnwch economaidd wedi dod i’r amlwg yn y degawd ers argyfwng ariannol 2008/09. Mae’n codi’r cwestiwn ynghylch pam mae rhai economïau’n yn fwy abl i wrthsefyll sioc economaidd, neu’n adfer yn gryfach, nag eraill yn ôl pob tebyg. Mae hyn yn arbennig o berthnasol yn yr hinsawdd bresennol o ansicrwydd economaidd. Yn 2019, gofynnodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru eu cynghori ar sail y dystiolaeth a all helpu i lywio polisïau i wella gwydnwch economi Cymru.

Mae ein gwaith yn defnyddio tystiolaeth o bedwar ban byd, gan gynnwys cau prif gyflogwyr fel MG Rover yng ngorllewin canolbarth Lloegr, yn ogystal ag ystyried y rôl benodol sydd gan gwmnïau lleol canolig eu maint. Bydd ein hadroddiad terfynol yn cynnig dealltwriaeth ar sail tystiolaeth o’r nodweddion hynny y credir eu bod yn hyrwyddo economïau cryf yn ogystal â nodi themâu allweddol sy’n sail i lunio polisïau effeithiol yn y maes hwn.