Mae mynd i’r afael â thlodi wedi bod yn brif amcan polisi Llywodraeth Cymru yn gyson ac mae wedi cychwyn amrywiaeth o gynlluniau cysylltiedig ers datganoli. Mae’r rhain wedi cynnwys strategaethau trosfwaol, fel Strategaeth Tlodi Plant Cymru, i bolisïau ac ymyriadau mwy penodol ar draws amrywiaeth o feysydd polisi sy’n gysylltiedig â thlodi, megis addysg, cyflogaeth, hyfforddiant, cymunedau, a theuluoedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno adnewyddu ei hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi ac mae eisiau adeiladu ar yr hyn a wnaed yn flaenorol yng Nghymru a dysgu ohono, yn ogystal â dysgu o wledydd a lleoedd eraill sydd â strategaethau a rhaglenni lleihau tlodi effeithiol.
Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cydweithio â’r Sefydliad Polisi Newydd (NPI) a Chanolfan Dadansoddi Allgáu Cymdeithasol (CASE) Ysgol Economeg Llunain (LSE), gyda chymorth gan gynghorwyr arbenigol yng Nghymru, i ddarparu adolygiad o strategaethau, rhaglenni ac ymyriadau tlodi rhyngwladol. Nod yr adolygiad fydd i ateb y cwestiynau canlynol:
- Pa strategaethau lliniaru tlodi rhyngwladol effeithiol yn bodoli sy’n berthnasol i Gymru? Beth yw nodweddion allweddol strategaethau effeithiol yn erbyn tlodi, o ran dylunio, gweithredu, llywodraethu a gwerthuso?
- Pa raglenni ac ymyriadau effeithiol i leihau tlodi sy’n bodoli? Beth yw nodweddion allweddol dulliau effeithiol a sut y dylid eu hasesu?
- Beth yw cryfderau a gwendidau strategaethau, ymyriadau a rhaglenni Llywodraeth Cymru yn erbyn tlodi yn y gorffennol a’r presennol?
Defnyddir y canfyddiadau i ddatblygu ‘fframwaith effeithiolrwydd’, y gellir ei ddefnyddio i adolygu strategaethau a rhaglenni lleihau tlodi presennol a blaenorol Llywodraeth Cymru yn feirniadol.
Bydd yr adolygiad yn llywio’r gwaith o ddylunio a gweithredu camau yn y dyfodol i fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru ar ôl etholiadau Mai 2021.