Tuag at bontio cyfiawn yng Nghymru

Statws prosiect Ar Waith

Mae wedi bod cynnydd mewn ymwybyddiaeth, ymysg y cyhoedd a llunwyr polisi, o ran mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ers dechrau 2019. Yng Nghymru, mae datganiad Llywodraeth Cymru o ‘argyfwng hinsawdd’ ym mis Ebrill 2019 wedi nodi ymrwymiad o’r newydd i ddatgarboneiddio.

Mae datgarboneiddio’n codi ystod o heriau i lywodraethau, busnesau a chymunedau. Er bod cytundeb eang ar yr angen i ddatgarboneiddio, mae angen mwy o sylw ar oblygiadau dosbarthiadol ehangach y newid hwn.  Mae’r pryder y gallai’r newid tuag at economi sydd wedi’i datgarboneiddio gynnal neu waethygu’r anghydbwysedd economaidd-gymdeithasol presennol wedi arwain at alwadau am bontio ‘cyfiawn’. Yn hytrach na gweld datgarboneiddio fel bygythiad i weithluoedd a chymunedau cyfredol, mae cefnogwyr y cysyniad hwn yn ei weld fel cyfle i greu economi fwy cytbwys a chynhwysol.

Yng nghyd-destun Cymru, mae hyn yn codi nifer o gwestiynau. Yn gyntaf, ble mae’r cyfleoedd ar gyfer pontio cyfiawn yng Nghymru?  Ac, yn ail, pa rôl y gallai’r llywodraeth ac eraill ei chwarae wrth helpu i sicrhau pontio o’r fath?

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi bod yn ceisio harneisio safbwyntiau ymhlith sefydliadau ac arbenigwyr unigol sy’n gweithio yn y maes hwn trwy gyfarfodydd bord gron a mathau eraill o ymgysylltu, yn ogystal â thrwy gynnal ymchwil bwrdd gwaith, i ddarparu myfyrdod cychwynnol ar y materion hyn, ac ar sut olwg allai fod ar weithredu pontio cyfiawn yng Nghymru.