Gweithio o bell ac economi Cymru

Statws prosiect Ar Waith

Mae economi Cymru yn profi sioc ddofn a digynsail o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. Un o ganlyniadau cyfyngiadau symud a chyfyngiadau iechyd cyhoeddus yw ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gartref lle y gallant. Mae data’r DU yn awgrymu, er mai dim ond 5 y cant o weithwyr oedd yn gweithio gartref cyn mis Mawrth 2020, y cynyddodd hyn i oddeutu 45 y cant ar ddechrau’r cyfyngiadau symud.

Er nad yw’r ganran hon yn debygol o gael ei chynnal unwaith y bydd pandemig y coronafeirws yn fwy hylaw yn y tymor canolig i’r tymor hir, mae’n rhesymol disgwyl y bydd mwy o bobl yn gweithio o bell am fwy o’r amser yn y dyfodol. Gofynnodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru syntheseiddio’r dystiolaeth ar oblygiadau tebygol gweithio o bell i economi Cymru.

Bydd ein gwaith yn tynnu ynghyd y dystiolaeth sydd ar gael hyd yn hyn o Gymru, gweddill y DU a ledled y byd, gan ganolbwyntio’n benodol ar genhedloedd a gwladwriaethau bach, i ddeall sut y gall gweithio o bell gael effaith ar wahanol agweddau ar weithgarwch economaidd yn y dyfodol.