Tlodi ac allgáu cymdeithasol: Adolygiad

Statws prosiect Cwblhawyd

Mae mynd i’r afael â thlodi ac allgau cymdeithasol wedi bod yn brif amcan cyson i Lywodraeth Cymru o ran polisïau, ac mae wedi cychwyn amrywiaeth o gynlluniau sy’n gysylltiedig â hyn ers datganoli. Mae’r rhain wedi cynnwys strategaethau trosfwaol, megis Strategaeth Tlodi Plant Cymru, a hefyd polisïau ac ymyriadau mwy penodol ar draws amrywiaeth o feysydd polisi sy’n gysylltiedig â thlodi ac allgáu cymdeithasol, megis addysg, cyflogaeth, hyfforddiant, cymunedau, a theuluoedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno adnewyddu ei hymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol ac mae eisiau adeiladu ar yr hyn a wnaed yn flaenorol yng Nghymru a dysgu ohono, yn ogystal â dysgu o wledydd a lleoedd eraill sydd â strategaethau a rhaglenni lleihau tlodi effeithiol.

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan y Polisïau Cyhoeddus adolygu strategaethau, rhaglenni a chamau lleddfu tlodi ac allgáu cymdeithasol ledled y byd. Mae cyfres o adroddiadau wedi’i pharatoi yn rhan o’r prosiect hwn, gan adolygu digon o dystiolaeth ar wahanol lefelau. Mae’n cynnwys tystiolaeth o raglenni unigol sy’n anelu at fynd i’r afael ag elfennau penodol o dlodi ac allgáu cymdeithasol yn ogystal â hanfod strategaeth wrth-dlodi genedlaethol effeithiol. Mae’r adolygiad wedi ystyried tystiolaeth feintiol ac ansoddol, ynghyd â phrofiad pobl, i ofalu bod y canfyddiadau’n gyfoes ac yn cyfleu darlun cywir o dlodi ac allgáu cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n cynnwys tystiolaeth berthnasol o ddulliau llwyddiannus ledled y byd hefyd, i lywio canfyddiadau a phenderfyniadau’r dyfodol ynghylch lleddfu tlodi yng Nghymru.

Mae CPCC wedi partneru gyda’r Sefydliad Polisïau Newydd (NPI) a Chanolfan Dadansoddi Allgáu Cymdeithasol (CASE) Ysgol Economeg Llundain (LSE), gyda chymorth gan gynghorwyr arbenigol yng Nghymru, i gyflwyno adolygiad o strategaethau, rhaglenni ac ymyriadau rhyngwladol sy’n mynd i’r afael â thlodi.

Mae’r ganolfan wedi llunio 18 adroddiad yn rhan o’i phrosiect ar dlodi ac allgáu cymdeithasol i Lywodraeth Cymru: