Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl: Newid y prawf modd

Statws prosiect Ar Waith

Gofynnodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru archwilio goblygiadau gwaredu’r  prawf modd ar gyfer grantiau cyfleusterau bach a chanolig i’r anabl.

Mae grantiau cyfleusterau i’r anabl yn grantiau prawf modd ar gyfer perchen-feddianwyr a thenantiaid (preifat neu gymdeithasol) sy’n anabl i helpu tuag at gostau gwneud eu cartref yn hygyrch. Mae grantiau cyfleusterau i’r anabl yn grantiau gorfodol sy’n cael eu hariannu a’u gweinyddu gan awdurdodau lleol o gronfeydd nad ydynt wedi’u neilltuo.

Yn 2018, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad ar addasiadau tai a ganfu y dylai Llywodraeth Cymru, er mwyn gwella prydlondeb wrth ddarparu grantiau cyfleusterau i’r anabl, adolygu a ddylai grantiau cyfleusterau i’r anabl barhau i fod yn destun prawf modd. Yn dilyn hynny, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i’r materion a godwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru adolygu dulliau cyfredol o gynnal y prawf modd, ymhlith diwygiadau arfaethedig eraill.

Mewn ymateb i hyn, mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ystyried cyhoeddi canllawiau newydd ar grantiau cyfleusterau i’r anabl, yn benodol ar waredu’r prawf modd ar gyfer grantiau bach a chanolig.

I lywio’r arweiniad hwn, gofynnodd y Gweinidog inni ystyried y canlynol:

  • Sut y dylid diffinio grantiau cyfleusterau bach a chanolig i’r anabl?
  • Beth yw’r goblygiadau ariannol i awdurdodau lleol o waredu’r prawf modd ar gyfer grantiau cyfleusterau bach a chanolig i’r anabl?
  • Beth yw’r goblygiadau cyfreithiol?
  • Beth yw’r goblygiadau cymdeithasol?
  • Beth yw’r canlyniadau i’r gwaith o’u gweithredu?

Er mwyn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn, rydym yn cynnal astudiaeth dulliau cymysg. Cynhelir dadansoddi data gan ddefnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael i’r cyhoedd ar StatsCymru. Ategwyd y gwaith hwn â dadansoddiad o ddeddfwriaeth yn ymwneud â grantiau cyfleusterau i’r anabl ac â sgyrsiau ag ymarferwyr mewn awdurdodau lleol yn Lloegr a oedd eisoes wedi gwneud newidiadau i’r prawf modd ar gyfer grantiau cyfleusterau i’r anabl, ac ymarferwyr mewn awdurdodau lleol yng Nghymru ar unrhyw newidiadau yr oeddent wedi’u gwneud yn ogystal â’u safbwyntiau ar y newid arfaethedig.

Disgwylir i’r adroddiad o’r prosiect hwn gael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2021.