Ymateb i ddinasyddion sydd mewn dyled i wasanaethau cyhoeddus

Statws prosiect Cwblhawyd

Nod y prosiect hwn oedd canfod sut gall gwasanaethau cyhoeddus a’u partneriaid dan gontract yng Nghymru ymateb yn well i ddyledwyr sy’n agored i niwed, yn enwedig y rheiny allai gael eu herlyn a’u carcharu.

Ein prif ffocws oedd dau fath o ddyled y mae gan wasanaethau cyhoeddus Cymreig rywfaint o reolaeth drostynt: dyledion treth gyngor, ac ôl-ddyledion rhent i landlordiaid llywodraethol a chymdeithasol. Roedd y prosiect yn cynnwys dadansoddiad o ddyled i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, deall profiad y dyledwr, ac adolygu’r dystiolaeth dros gymorth effeithiol ar gyfer pobl sy’n agored i niwed mewn dyled ar draws pob sector.