Modelau gwahanol o ofal cartref

Statws prosiect Cwblhawyd

Gofal cartref yw gofal cymdeithasol a ddarperir yng nghartrefi pobl ac mae’n cynnwys amrywiaeth o gymorth fel help gyda thasgau bob dydd, gofal personol, a help i symud. Mae gofal cartref yn wynebu nifer o heriau hirsefydlog, gan gynnwys cyllid, bregusrwydd y farchnad, newidiadau demograffig, a sefydlogrwydd y gweithlu.

Mae darparu gofal cartref o ansawdd uchel yn hollbwysig i wireddu uchelgeisiau a nodwyd yn ‘Cymru Iachach’ ar gyfer ffocws ar ofal ataliol yn y gymuned sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda mwy o weithio cydgysylltiedig rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Darperir y rhan fwyaf o ofal cartref yng Nghymru gan y sector preifat ac mae Llywodraeth Cymru’n ymrwymedig i ‘ailgydbwyso’r farchnad’. Gofynnwyd i ni gan Brif Weinidog Cymru i adolygu enghreifftiau dewisedig o fodelau gwahanol o ofal cartref sydd wedi cael eu datblygu mewn rhannau eraill o’r DU ac mewn gwledydd eraill ac a allai gynnig mewnwelediad gwerthfawr i Gymru.