Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn derbyn canmoliaeth am effaith ragorol ar bolisi yng Nghymru

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, sydd wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn canmoliaeth gan Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) trwy ei chynllun gwobrwyo blynyddol, Dathlu Effaith.

Roedd y Ganolfan yn un o ddau a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategori Effaith Polisi Cyhoeddus Ragorol mewn seremoni yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ar 9 Gorffennaf 2019. Mae’r Wobr yn cydnabod y ffordd y mae gwaith y Ganolfan yn galluogi Gweinidogion i gyrchu a defnyddio tystiolaeth annibynnol er mwyn llywio penderfyniadau polisi. Y Ganolfan oedd yr unig sefydliad o Gymru a gyrhaeddodd y rownd derfynol, ac fe’i dewiswyd o blith nifer fawr o geisiadau cystadleuol.

Mae’r wobr o fri, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn dathlu timau a ariennir gan ESRC sydd wedi cyflawni effaith economaidd neu gymdeithasol ragorol. Cafodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu dewis yn ôl proses drylwyr a gynhelir gan academyddion uwch, arbenigwyr ar ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth a defnyddwyr ymchwil. Arweiniwyd y digwyddiad gan Yr Athro Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol ESRC, a thraddodwyd y brif araith gan Syr Mark Walport, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI).

Am y Ganolfan, dywedodd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford: “Mae gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cryfhau yn sylweddol y modd y lluniwn bolisi yng Nghymru. Mae’n rhoi inni dystiolaeth annibynnol o safon uchel sy’n herio ein rhagdybiau cyfredol a gwella ein penderfyniadau.”

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Steve Martin: “Rydym wrth ein boddau, yn wir, fod ESRC wedi dathlu’r effaith yr ydym wedi llwyddo i’w chael. Roeddem yn falch iawn i allu arddangos y gwaith sy’n cael ei gyflawni yng Nghymru, ac mae’r wobr dystiolaeth o ba mor uchel yw ansawdd y gwaith y mae ein tîm yn ei gynhyrchu a’r ffordd y mae Gweinidogion Cymru wedi agor y broses lunio polisïau i’r dystiolaeth orau sydd ar gael.”

Dywedodd yr Athro Jennifer Rubin: “Mae pob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol wedi dangos effaith eu gwaith a’i berthnasedd a’i bwysigrwydd i’r gymdeithas. Maent eisoes yn cyfrannu at ddadleuon polisi yn eu meysydd arbenigol, a gobeithio y bydd eu dylanwad yn parhau am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor (Y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol) ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r gydnabyddiaeth ddiweddaraf hon o arwyddocâd y gwaith y mae’r Ganolfan yn ei gyflawni i sicrhau bod penderfyniadau polisi cenedlaethol sy’n effeithio arnom wedi eu gwreiddio mewn tystiolaeth a gaffaeliwyd a’i dehongli gan arbenigwyr yn atgoffâd o’r rôl allweddol y mae’r tîm ymchwil hwn, a Phrifysgol Caerdydd, yn ei chwarae ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol Cymru. Llongyfarchiadau gwresog i’r Ganolfan.”

Dywedodd Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd: “Rydym yn falch iawn o waith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a’r effaith mae’n ei chael. Mae’r Ganolfan yn llunio polisi cyhoeddus ac yn llywio penderfyniadau er mwyn cyflawni gwell canlyniadau at gyfer pobl Cymru. Ar ran Prifysgol Caerdydd, hoffwn longyfarch Steve a’r tîm yn ddiffuant ar y cyflawniad anhygoel hwn. Edrychaf ymlaen at weld y Ganolfan yn mynd o nerth i nerth yn y blynyddoedd i ddod.”

(Hawlfraint lluniau ESRC)

Tagiau