Goblygiadau Brexit i Gymru a Datganoli

Lleoliad Westminster
Dyddiad 21 Mawrth 2018

Pan fydd y DU yn ymadael â’r UE, bydd llawer o bwerau a chyfrifoldebau yn dychwelyd i Senedd y DU. Un mater sydd heb gael digon o sylw yw goblygiadau Brexit i ddatganoli a pholisi cyhoeddus yng Nghymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Mae llawer o’r meysydd polisi y bydd yr UE yn rhoi pŵer drostynt yn ôl yn rhai datganoledig, megis amaethyddiaeth a physgodfeydd. Bydd y ffordd y caiff y pwerau hyn eu dyrannu, a’r fframweithiau gweithredu, yn hollbwysig, nid yn unig yng Nghaerdydd ond yn San Steffan hefyd.

Gwnaethom ddefnyddio’r cyd-destun hwn i dynnu sylw cynulleidfa yn San Steffan at ein hymchwil i’r materion hyn ar 20 Mawrth 2018. Ers pleidleisio dros adael yr UE, rydym wedi llunio adroddiadau i Lywodraeth Cymru ar fewnfudo, amaethyddiaeth, pysgodfeydd, hawliau llafur a thrafodaethau masnach, a chafodd y rhain eu cyflwyno i gynulleidfa yn San Steffan er mwyn tynnu sylw at gymhlethdodau proses Brexit i lywodraethau datganoledig yn y DU.

Cafwyd dadl brwd ynghylch mewnfudo a’r rhyddid i bobl symud yn ystod ymgyrch y refferendwm, a gwnaeth yr Athro Jonathan Portes (Coleg y Brenin, Llundain) ymchwilio i’r mater allweddol hwn ar ein rhan. Mae ei waith yn tynnu sylw at gymhlethdod trafodaethau Brexit. Mae angen datrys sawl problem gyfreithiol a gweinyddol o hyd i’r 80,000 o wladolion yr AEE sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, ac nid yw’n amlwg o hyd sut y bydd system fewnfudo ar ôl Brexit yn gweithio i sectorau yng Nghymru sy’n ddibynnol ar fewnfudo (megis iechyd a gofal cymdeithasol, gweithgynhyrchu ac addysg uwch). Byddai hwyluso’r broses o roi statws preswylio’n barhaol i wladolion yr AEE, parhau â’r rhyddid i symud am gyfnod penodedig ar ôl Brexit, rhoi system fewnfudo newydd ar waith yn ofalus fesul cam, osgoi cyfyngiadau a chwotâu, ystyried cynlluniau mewnfudo rhanbarthol a bod yn fwy agored i dderbyn gwladolion nad ydynt o’r UE yn lleihau’r risgiau i economi Cymru a’i marchnad lafur.

Gwnaeth Dr Heather Rolfe gyd-ategu ymchwil Jonathan i ni drwy gyflwyno’r dystiolaeth sydd ar gael ar fewnfudo ac agweddau cyflogwyr. Dangosodd fod cyflogwyr yn cyflogi mewnfudwyr yn bennaf am nad oes digon o weithwyr Prydeinig ar gael, a bod hynny wedi digwydd ers blynyddoedd. Nid yw cyflogwyr yn cefnogi cynlluniau mewnfudo rhanbarthol yn fawr iawn, nac yn cefnogi targedau. Mae Cymru’n annhebygol o elwa o’r naill neu’r llall, gan nad yw newidiadau demograffig o blaid Cymru. Os bydd Cymru am weld twf economaidd yn y dyfodol, mae’n debygol y bydd mewnfudo’n angenrheidiol i’w gyflawni. Gellir darllen gwaith Heather yn fwy manwl yma.

Cyflwynodd yr Athro Janet Dwyer (Sefydliad Ymchwil Cefn Gwlad a’r Gymuned) yr ymchwil a wnaeth ar ein rhan i oblygiadau Brexit ar gyfer amaethyddiaeth a’r defnydd o dir gwledig, gan ddadlau y bydd y newidiadau mwyaf tebygol mewn amodau masnachu yn arwain at sefyllfa lle mae amaethyddiaeth yng Nghymru dan anfantais o gymharu â’r prif gystadleuwyr masnachu. Gallai ffermwyr defaid a chig eidion fod dan anfantais yn benodol ar ôl Brexit. Mae’n debygol y bydd hyfywedd economaidd y broses o gynhyrchu defaid yn dirywio. Er hynny, efallai mai ffermydd llaeth, garddwriaethol, cymysg ac eraill fydd yn y sefyllfa orau i elwa o’r newidiadau ar ôl Brexit. Gall canlyniadau amgylcheddol ddeillio o Brexit hefyd. Bydd helpu ffermwyr i reoli tir neu ei symud i sectorau eraill yn bwysig, yn ogystal â sicrhau bod digon o arian ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yng Nghymru.

Trafododd Griffin Carpenter (Sefydliad Economeg Newydd) yr ymchwil a wnaeth ar ein rhan i oblygiadau Brexit ar gyfer polisi pysgodfeydd yng Nghymru. Mae gwaith dadansoddi amrywiaeth o senarios yn sgil Brexit yn datgelu, er y gallai fflyd bysgota Cymru yn ei chyfanrwydd fod ar ei hennill, fod rhannau mawr o’r diwydiant, a’r rhan fwyaf o gychod, pysgotwyr a phorthladdoedd, yn debygol o fod ar eu colled. Dim ond nifer fach o gychod fydd o bosibl yn sicrhau enillion mawr, gan gynnwys rhai ‘fflaglongau’ sy’n glanio llawer o’u pysgod yn Sbaen. Mae fflyd Cymru hefyd yn cynnwys cychod bach yn bennaf na fyddent yn elwa o fynediad llwyr-gyfyngedig i ardal bysgota estynedig. Maent yn dal rhywogaethau pysgod cregyn yn bennaf nad ydynt yn cael eu rheoli gan derfynau cwota. Mae’r rhan fwyaf o’r bwyd môr sy’n cael ei ddal gan fflyd Cymru yn cael ei allforio i wledydd yr UE neu ei allforio drwy gytundebau masnach yr UE, felly gallai rhwystrau tariff a di-dariff posibl i fasnach effeithio’n sylweddol ar fynediad i’r farchnad a chystadleurwydd. Dangosodd Griffin fod fflyd Cymru’n unigryw, ac y bydd angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wneud newidiadau wedi’u targedu ar y cyd i’r ffordd y caiff pysgodfeydd eu rheoli yng Nghymru.

Daeth yr Athro Richard Wyn Jones (Canolfan Llywodraethiant Cymru) â’r cyflwyniadau ynghyd drwy ddadansoddi’r materion sy’n ymwneud â Brexit a datganoli. Dangosodd i ba raddau y mae datganoli yng Nghymru wedi bod yn araf a thameidiog, a bod Brexit yn creu mwy o ansicrwydd eto o ran sut mae’r system wleidyddol yng Nghymru’n gweithio. Ymddengys hyd yn hyn fod dull gweithredu Llywodraeth y DU yn un sydd o blaid ‘ailganoli’, tra bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn cydweithio’n fwy nag erioed. Mae hyn oll yn digwydd yng nghyd-destun cymhlethdodau etholiadol Brexit, lle gwnaeth barn pobl am eu hunaniaethau Prydeinig, Cymreig a Seisnig ddylanwadu ar y ffordd y gwnaethant ddewis pleidleisio.

Ochr yn ochr â’r ymchwil a gyflwynwyd i gynulleidfa yn San Steffan, rydym hefyd wedi gwneud ymchwil ar ran Llywodraeth Cymru i oblygiadau Brexit ar gyfer hawliau llafur yng Nghymru, a sut y gellid cynrychioli buddiannau Cymru mewn trafodaethau masnach yn y dyfodol. Gyda’i gilydd, mae’n creu corff o dystiolaeth ac ymchwil sydd, gobeithio, yn llywio dealltwriaeth o bolisi cyhoeddus a Brexit, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a’r UE yn fwy eang.