Gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cael ei arddangos mewn adroddiad newydd gan Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (CPPC) yn cael ei chynnwys mewn adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, mewn partneriaeth â SAGE Publishing.

Mae’r Lle i Fod: sut mae gwyddorau cymdeithasol yn helpu i wella lleoedd yn y DU (The Place to Be: how social sciences are helping to improve places in the UK), yn dwyn ynghyd 24 o astudiaethau achos sy’n dangos sut mae gwyddonwyr cymdeithasol mewn prifysgolion yn helpu i wella ardaloedd lleol, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus, a gwella canlyniadau cymdeithasol ac economaidd. Mae’n cwmpasu nifer o ddisgyblaethau a thimau gwyddorau cymdeithasol o bob rhan o’r DU.

Mae gwaith CPPC wedi llywio a dylanwadu ar lunio polisïau a gwneud penderfyniadau mewn nifer o feysydd pwysig, o atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc i helpu i wneud yn siŵr bod darpariaeth gofal plant y blynyddoedd cynnar yn cael ei thargedu’n fwy effeithlon at rieni sy’n gweithio. Yn ddiweddar, gwnaethom ganolbwyntio llawer o’n hymdrechion ar effeithiau pandemig y Coronafeirws yng Nghymru a ffyrdd o fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysu cymdeithasol, gwella addysg a gwydnwch economaidd, a hyrwyddo adferiad gwyrdd. Gwnaethom hefyd edrych ar effaith Brexit ar incwm cartrefi, y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a sectorau allweddol economi Cymru.

Mae Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford, wedi dweud:

“Mae gwaith Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cryfhau yn sylweddol y modd y lluniwn bolisïau yng Nghymru. “Mae’n rhoi inni dystiolaeth annibynnol o safon uchel sy’n herio ein rhagdybiau cyfredol ac yn gwella ein penderfyniadau.”

 

Mae Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol yn hyrwyddo gwyddorau cymdeithasol yn y DU er budd y cyhoedd. Mae’n arddangos, yn hyrwyddo ac yn eirioli dros y gwyddorau cymdeithasol, gan godi ymwybyddiaeth o’u dylanwad aruthrol a helpu i sicrhau dyfodol llewyrchus iddynt.