Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Dathlu Effaith ESRC

Rydym wrth ein boddau’n cyhoeddi i’r Ganolfan gael ei dewis i fod yn rownd derfynol Gwobr Dathlu Effaith ESRC er mwyn cydnabod y ffordd y mae’n galluogi Gweinidogion i ddefnyddio tystiolaeth i lywio penderfyniadau ynghylch polisi.

Mae’r wobr o fri, sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn, yn dathlu timau a ariennir gan ESRC sydd wedi cyflawni effaith economaidd neu gymdeithasol ragorol. Mae’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis yn ôl proses drylwyr a gynhelir gan academyddion uwch, arbenigwyr ar ymgysylltu a chyfnewid gwybodaeth a defnyddwyr ymchwil.

Meddai’r Athro Jennifer Rubin, Cadeirydd Gweithredol ESRC: “Dyma gyfle gwych i wyddonwyr cymdeithasol gael cydnabyddiaeth am effaith eu gwaith. Mae’r enillwyr blaenorol wedi cynhyrchu gwaith ardderchog ar draws ystod o feysydd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan, yr Athro Steve Martin: “Rydym wrth ein boddau bod ESRC yn dathlu’r effaith yr ydym wedi llwyddo i’w chael. Mae’n dystiolaeth o ba mor uchel yw ansawdd y gwaith y mae ein tîm yn ei gynhyrchu a’r ffordd y mae Gweinidogion Cymru wedi agor y broses lunio polisïau i’r dystiolaeth orau sydd ar gael.”

Mae’r ESRC wedi comisiynu ffilm broffesiynol am waith ac effaith y Ganolfan, fydd yn cael ei rhyddhau maes o law.

Cynhelir y seremoni wobrwyo yn y Gymdeithas Frenhinol yn Llundain ar 9 Gorffennaf 2019.

Tagiau