Tu hwnt i gontractio: stiwardiaeth gwasanaeth cyhoeddus i uchafu gwerth cyhoeddus

Lleoliad Executive Education Suite, Canolfan Dysgu Ôl-radd, Prifysgol Caerdydd, CF10 3EU
Tocynnau Bwciwch yma
Dyddiad 5 Chwefror 2019

Hoffem eich gwahodd i fynychu ein digwyddiad sydd i ddod ar gaffael cyhoeddus, stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus a chontractau allanol yng Nghymru. Y bwriad yw llywio a sbarduno trafodaeth ddinesig am ddyfodol caffael cyhoeddus yng Nghymru a chyfrannu rhai syniadau ar gyfer datblygu strategaeth genedlaethol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei lywio gan banel o arbenigwyr yn ogystal â’n hadroddiad sydd ar ddod ac mae wedi’i anelu at uwch arweinwyr ac arweinwyr strategol mewn cyrff ac awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. Caiff ei gadeirio gan yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a bydd yn cynnwys trafodaeth panel gyda digon o gyfleoedd i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau. Byddem yn annog eich cyfranogiad myfyriol.

Panel:

  • Benoit Guerin, Uwch Ymchwilydd yn y Sefydliad ar gyfer Llywodraethu
  • Liz Lucas, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid a Digidol a chyn-Bennaeth Caffael yng Nghyngor Caerffili
  • Nick Sullivan, Pennaeth Polisi a Chyflawni Masnachol i Lywodraeth Cymru
  • John Tizard, sylwebydd annibynnol a chyd-awdur yr adroddiad
  • Cadeirydd: Yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Cyrraedd o 4.30yp ymlaen
Dechrau’r drafodaeth banel am 5.00yh
Diod a rhwydweithio am 6.15yh
Gorffen erbyn 7.00yh

Pam cynnal y digwyddiad?

Mae polisi a gwasanaethau caffael cyhoeddus Cymru wedi denu sylw beirniadol sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda Swyddfa Archwilio Cymru’n tynnu sylw at ddiffygion strategol ac ymarferol ac ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn mynd rhagddo. Mae’r Prif Weinidog newydd wedi sôn am gaffael moesegolcaffael doethach a mwy creadigol i gefnogi’r agendâu polisi atal a ffyniant, codi statws caffael a harneisio pŵer caffael i gefnogi BBaChau rhanbarthol a’r economi sylfaenol. Mae adolygiad Llywodraeth Cymru ei hun wedi galw am archwiliad manwl o sut y gall cyllid cyhoeddus gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn well ac adeiladu twf economaidd ar draws pob rhanbarth. Mae wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda rhanddeiliaid i ddatblygu strategaeth caffael newydd a bydd y digwyddiad hwn yn ceisio llywio’r broses hon o ddatblygu polisi.

Yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru rydym yn cynnal rhaglen o waith sy’n ymwneud â chaffael. Ym mis Gorffennaf 2018 cynhaliom ddigwyddiad yn edrych ar y gwersi o Carillion ac ers hynny rydym wedi bod yn gweithio ar gyfres o bapurau tystiolaeth a pholisi yn ymwneud â strategaeth caffael, cynaliadwyedd ac arloesi. Caiff y cyntaf ei gyhoeddi wrth i’r digwyddiad nesáu ac mae’n ymwneud â “stiwardiaeth” gwasanaethau cyhoeddus a chontractau allanol. Mae wedi’i gyd-awduro gan John Tizard a bydd y digwyddiad hwn yn ystyried ei ganfyddiadau a’r goblygiadau.

Mae’r papur yn ceisio datblygu gweledigaeth ar gyfer stiwardiaeth gyfrifol o wasanaethau cyhoeddus a’r goblygiadau ymarferol o ran rhoi gwasanaethau cyhoeddus ar gontractau allanol, ar lefel genedlaethol a lleol. Nid yw’r awduron yn eirioli dros fwy neu lai o gontractau allanol ond maent yn dadlau, os bydd cyrff cyhoeddus yn caffael gwasanaethau ar gontractau allanol, dylent wneud hynny’n fwriadol, yn ofalus ac yn dryloyw, gyda phenderfyniadau wedi’u llywio gan dystiolaeth a phrofiad. Mae’r Sefydliad ar gyfer Llywodraethu yn ddiweddar iawn wedi adrodd ar raddfa a natur contractio yn y DU gan dynnu sylw at negeseuon tebyg ynghylch pwysigrwydd data agored ar gyfer atebolrwydd.

Mae symud tuag at ddulliau caffael newydd yn benderfyniad strategol: mae’n gofyn am aildrefniant ymwybodol o’r blaenoriaethau cynhenid mewn trefniadau caffael presennol; perthynas wahanol iawn rhwng gwasanaethau cyhoeddus a thrydydd partïon; a derbyn gwahanol fath o risg. Am y rheswm hwn, mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ceisio ennyn diddordeb uwch weithredwyr gwasanaethau cyhoeddus, byrddau ac arweinwyr gwleidyddol, gan ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd i’w cynorthwyo’n well i ymateb i’r her o wneud y defnydd gorau o werth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd dulliau caffael ar draws y sector cyhoeddus, er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru nawr ac yn y dyfodol. Mae’r ysgogiad i flaenoriaethu cynaliadwyedd a gwerth (yn yr ystyr ehangaf) penderfyniadau buddsoddi cyhoeddus wedi’i hybu yng Nghymru gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, tra bod achos Carillion yn enghraifft o’r risgiau o beidio â gwneud hynny, ynghyd â phryderon difrifol ynghylch Interserve, Capita a darparwyr contractau allanol mawr eraill.