Mae caledi, datganoli pwerau ymhellach, materion fel poblogaeth sy’n heneiddio a newid yn yr hinsawdd, ac wrth gwrs Brexit i gyd yn amodau a digwyddiadau pwysig sy’n arwain at ansicrwydd, ansefydlogrwydd a sefyllfa ddigynsail ym mholisi a gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r materion hyn yn effeithio ar sut a pham y gwneir polisi a chyflenwir gwasanaethau. Mae hwn hefyd yn amser da sydd angen myfyrio a dadansoddi, lle mae nifer o randdeiliaid – gweinidogion, gweision sifil, gwleidyddion, gweithwyr proffesiynol, academyddion a dinasyddion – yn adolygu ac yn ailddiffinio pwrpas a chanlyniadau polisi a gwleidyddiaeth yng Nghymru.
Wedi’i gynnal mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), daeth y digwyddiad undydd hwn ag academyddion at ei gilydd ar bob cam o’u gyrfa, yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a chymdeithas sifil, i drafod y cwestiynau hyn , arferion presennol ac yn y dyfodol, a chyfleoedd ar gyfer polisi a gwleidyddiaeth Cymru.
Roedd y diwrnod fel a ganlyn (mae dolenni i’r cyflwyniadau PowerPoint sydd ar gael i’r ochr / isod. Mae’r rhain ar gael yn Saesneg yn unig):
Panel Un: Gwybodaeth a thystiolaeth yng Nghymru a’i rôl wrth greu polisïau
Trafodwraig: Anna Nicholl (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru)
Michelle Black (Prifysgol Sheffield), Claire Beynon (Iechyd Cyhoeddus Cymru), ac eraill: ‘Dysgu ar draws y DU: Adolygiad o systemau iechyd cyhoeddus ac agweddau polisi at ddatblygiad cynnar plant ers datganoli gwleidyddol’
Paul Worthington a Helen Hodges (Prifysgol Caerdydd): ‘Natur a graddfa’r ddyled i wasanaethau cyhoeddus a safbwynt dinasyddion: Tlodi o ran tystiolaeth?’
Nerys Edmonds a Liz Green (Iechyd Cyhoeddus Cymru): ‘Cyfuno tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg er mwyn hybu a diogelu iechyd a llesiant mewn cyfnod o ansicrwydd: Asesiad o Effaith Brexit ar Iechyd yng Nghymru’
Helen Hodges (Prifysgol Caerdydd): ‘A oes gennym y data cywir i ddatrys y broblem? Amrywiadau yng nghyfraddau’r plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru’
Datganoli a Brexit – ‘sgwrs’ gyda Jo Hunt a Hugh Rawlings
Trafododd yr Athro Jo Hunt a Dr Hugh Rawlings Brexit, datganoli pwerau newydd i Gymru, a’r rôl y gall amrywiol randdeiliaid polisi yng Nghymru – y llywodraeth, y pwerau deddfwriaethol, y gymdeithas sifil a phrifysgolion – ei chwarae.
Gellir lawrlwytho trawsgrifiad Saesneg o’r fideos hyn i’r ochr / isod.
Rhan 1 – Yr Athro Jo Hunt
Rhan 2 – Hugh Rawlings
Panel Dau: Damcaniaethau a dulliau wrth newid polisi: Safbwynt Cymru a datganoli
Trafodwr: James Downe (Prifysgol Caerdydd)
Dr Andrew Connell (Canolfan Polisi Cyoeddus Cymru): A all mesogovernments ddefnyddio offer meta-lywodraethu i fynd i’r afael â phroblemau polisi cymhleth?
Elizabeth Woodcock (Prifysgol Bangor): ‘Ymchwil gydweithredol, integreiddio buddiannau a chyflawni polisïau traws-sectoraidd’
Daniel Roberts (Prifysgol Abertawe): ‘Polisi entrepreneuriaeth yng Nghymru’
Panel Tri: Dyfodol polisi a gwleidyddiaeth yng Nghymru
Trafodwr: Leighton Andrews (Prifysgol Caerdydd)
Leighton Andrews (Prifysgol Caerdydd): ‘Croeso i Ukania: pryfociad’
Bob Smith (Prifysgol Caerdydd): ‘Darparu tai fforddiadwy yng Nghymru mewn cyfnodau heriol’
Rachel Minto ac Alison Parken (Prifysgol Caerdydd): ‘Beth a wnawn heb yr UE? Hybu cydraddoldeb yng Nghymru ar ôl datganoli’
Ian Stafford (Prifysgol Caerdydd): ‘Erioed wedi bod mor agos, ond cyn belled i ffwrdd ag erioed? Archwilio’r cysyniadau o ymddiriedaeth a thryloywder yng Nghymru’
Chyflwyniadau Poster
Esther Dorado Ladera (Academia Europaea): ‘Gwneud synnwyr o wyddoniaeth mewn amodau cymhleth ac ansicr’
Sara O’Shea (Prifysgol Abertawe): ‘Syniadau mawr mewn micro bentref: Gwerthuso prosiect tai â chymorth pobl ifanc yn Llanelli’
Suzanna Nesom (Prifysgol Caerdydd): ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a chreu cynlluniau llesiant’
Mae’r Athro Jo Hunt a Hugh Rawlings yn rhoi trosolwg o’u trafodaeth ‘mewn sgwrs’:
Mae un o drefnwyr y digwyddiad, Dr Matthew Wall, Athro Cyswllt mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn canmol y digwyddiad, a’i ganlyniadau:
Isod mae ein foment Twitter o’r dydd: