Noson rwydweithio gyda Chynghrair y Dystiolaeth Ddefnyddiol

Lleoliad Prif Fynedfa, Adeilad Haydn Ellis, Prifysgol Caerdydd, Maindy Road, Caerdydd, CF24 4HQ
Tocynnau Bwciwch yma
Dyddiad 4 Mehefin 2018

Nod y digwyddiad yw amlygu gwerth y broses o wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chysylltu â chynulleidfaoedd tebyg sydd â diddordeb mewn tystiolaeth. Mae’n dod â llunwyr polisïau ac academyddion sy’n gysylltiedig â Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ynghyd, yn ogystal ag aelodau o Gynghrair y Dystiolaeth Ddefnyddiol ledled a thu hwnt i Gymru.

Mae’r digwyddiad yn agored i unrhyw aelod o’r Gynghrair, y rhai sy’n gysylltiedig â gwaith WCPP, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda’r naill gynulleidfa neu’r llall er mwyn defnyddio tystiolaeth yn well wrth wneud penderfyniadau.