Ddydd Mawrth, 27 Mawrth 2018, gwnaethom gynnal digwyddiad gyda llunwyr polisi o Senedd y DU a Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag academyddion blaenllaw ym meysydd defnyddio tystiolaeth a pholisi cyhoeddus, er mwyn trafod sut y gall academyddion sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i’w hymchwil. Roedd y digwyddiad yn rhan o Gynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Astudiaethau Gwleidyddol, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd eleni.
Ar y panel roedd y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Margaret Hodge (AS Barking), Dr Huw Morris (Llywodraeth Cymru), yr Athro Paul Cairney (Prifysgol Stirling) a Dr Kathryn Oliver (Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain).
Roedd llawer o drafod yn ystod y digwyddiad, yn yr ystafell ac ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n ffurfio rhan o drafodaeth barhaus yn y gymuned academaidd a thu hwnt ynghylch y ffordd orau o wella cyfraniad ymchwil at y broses o lunio polisi.