Dyfodol Cymru

Oherwydd y pandemig cyfredol Coronafeirws (COVID-19), rydym wedi penderfynu gohirio’r gynhadledd ‘Dyfodol Cymru’.

Rydym yn gobeithio gallu cynnal y gynhadledd, wedi’i hail-amseru, yng Nghaerdydd ym mis Medi eleni. Mi fyddwn ni’n cyhoeddi’r dyddiad newydd, yn ogystal â dyddiad terfynol newydd ar gyfer cynigion o bapurau a phosteri, maes o law.

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, cewch gysylltu â WISERD.events@cardiff.ac.uk


Mae’r digwyddiad wedi’i drefnu gan WISERD (Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru) ar y cyd â Rhwydwaith Ymchwil Gwleidyddiaeth a Llywodraethu a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP)

Mae Cymru yn wynebu nifer o heriau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol. Bydd dyfodol y wlad yn dibynnu i raddau helaeth ar ddod o hyd i ffordd ymlaen yng nghyd-destun Brexit, datganoli rhagor o bwerau, y sgwrs gynyddol ynghylch annibyniaeth, nodau datblygu cynaliadwy a lles cenedlaethau’r dyfodol.

Gan adeiladu ar lwyddiant cynhadledd 2019, Polisi a Gwleidyddiaeth Cymru mewn Cyfnod Digynsail, bydd Dyfodol Cymru yn dod ag academyddion o bob cyfnod o’u gyrfa ynghyd ag aelodau o’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Trefnir y gynhadledd undydd yn dair sesiwn panel gyda chyflwyniadau papur (10–15 munud i bob cyflwyniad), cyn cael adborth gan y trafodwyr a chwestiynau gan y gynulleidfa. Bydd y paneli’n canolbwyntio ar y themâu canlynol:

  1. Dyfodol Cymru yn yr Undeb: Brexit, datganoli a dyfodol yr Undeb.
  2. Dyfodol Cymru yn y byd: gan gynnwys gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a chamau yn y dyfodol
  3. Dyfodol Cymru mewn rhifau: casglu a defnyddio data yng Nghymru ar gyfer llunio polisïau.

Byddwn hefyd yn cynnal cyflwyniad posteri a sesiwn wylio yn ogystal â sgwrs dros amser cinio gydag arbenigwyr o Gymru a’r tu hwnt.

 

Cyflwyno crynodeb neu boster

Rydym yn gwahodd academyddion ac eraill sy’n cynnal ymchwil ar wleidyddiaeth a llywodraethu yng Nghymru i gyflwyno crynodebau o bapurau, neu gynigion ar gyfer posteri, i’w cyflwyno yn y gynhadledd. Anfonwch grynodebau a chynigion sy’n cynnwys hyd at 300 gair at wiserd.events@caerdydd.ac.uk. Gwneir penderfyniadau cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw. Rydym yn annog myfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i gyflwyno crynodebau a chynigion, ac mae arian ar gael i’w helpu gyda chostau teithio (mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim).