Canolbwyntiodd y digwyddiad hwn ar y ddau ddatblygiad mwyaf sylweddol o ran polisi i Gymru ar ddechrau’r 2020au – diwedd (am y tro o leiaf) ar ddegawd o gyni ac ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020.
Ystyriodd y digwyddiad hwn:
- Pa wasanaethau cyhoeddus fydd yn cael mwy o arian?
- A fydd hyn yn mynd i’r afael â’r pwysau hirdymor ar ofal cymdeithasol, iechyd a gwasanaethau eraill?
- Beth am fuddsoddiad mewn seilwaith?
- A fydd Cymru’n gallu dylanwadu ar drafodaethau masnach gyda’r UE?
- Sut gall gryfhau cysylltiadau economaidd â rhannau eraill o’r byd?
- Pa fath o ‘Gronfa Rhannu Ffyniant’ fyddai’n gweithio orau yng Nghymru?
Ymhlith ein siaradwyr yr oedd Guto Ifan, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, a drafododd gyllideb Llywodraeth Cymru, a Gareth Williams, Cynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru, a fyfyriodd ar oblygiadau Brexit i’r economi a chysylltiadau rhyng-lywodraethol.
Gallwch lawrlwytho’r sleidiau o’r digwyddiad isod.