Cyrhaeddiad Addysg: Gweithdai Ymateb i’r Coronafeirws

Lleoliad Ar-lein
Tocynnau Bwciwch yma
Dyddiad 22 Mehefin 2021

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad

Mae’r digwyddiad ar gyfer addysgwyr, yn enwedig athrawon a phrifathrawon o ysgolion a cholegau.

Dyddiadau ar gael

22ain Mehefin 2021: 9.30am – 12.30pm

6ed Gorffennaf 2021: 2pm – 5pm

Pwrpas y digwyddiad

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod pandemig y Coronafeirws a chau’r ysgolion yn sgil hynny wedi cynyddu’r bwlch cyrhaeddiad addysgol.

Amcanion y gweithdai

Bydd y gweithdai’n canolbwyntio ar ddatblygu, enghreifftio a gweithredu canfyddiadau’r ymchwil sy’n gysylltiedig ag addysgu a dysgu cyfunol; ymyriadau dal i fyny; a datblygiad proffesiynol, a bydd yn archwilio:

  • Sut olwg sydd ar ganfyddiadau’r dystiolaeth yn ymarferol?
  • Beth yw’r galluogwyr a’r rhwystrau i weithredu’r argymhellion hyn?
  • Pa fewnwelediadau ac enghreifftiau sy’n seiliedig ar ymarfer y mae angen eu hadlewyrchu’n well yn y ‘sylfaen o dystiolaeth’?

Agenda (Cyfanswm – 3 awr)

  1. Croeso a chyflwyniadau (20 munud)
  2. Cyflwyniad ar ymyriadau dal i fyny (10 munud)
  3. Trafodaeth (35 munud)
  4. Egwyl cysur (10 munud)
  5. Cyflwyniad ar addysgu a dysgu cyfunol (10 munud)
  6. Trafodaeth (35 munud)
  7. Egwyl cysur (10 munud)
  8. Cyflwyniad ar ddatblygiad proffesiynol athrawon (10 munud)
  9. Trafodaeth (35 munud)
  10. Sylwadau i gloi, y camau nesaf a chloi (5 munud)

Partneriaid / awduron briffio polisi WCPP

Manon Roberts: Ymyriadau dal i fyny

Mae Manon Roberts yn Gydymaith Ymchwil yn WCPP.

Becki Bawler: Addysgu a dysgu cyfunol

Mae Becki Bawler yn athrawes ysgol uwchradd mewn ysgol gyfun yn ne Cymru ac mae’n astudio ar gyfer Doethuriaeth mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda thesis yn canolbwyntio ar ddatblygiad digidol ysgolion. Mae Becki yn aelod o fwrdd Impact Wales ac yn aelod o Fforwm Cynghori EdTech, rhan o’r Sefydliad Addysg.

Harry Fletcher Wood: Datblygiad proffesiynol athrawon

Mae Harry Fletcher-Wood yn gyn-athro hanes ac yn ymchwilydd addysgol cyfredol, yn canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygiad athrawon. Mae Harry yn gweithio yn Ambition Institute, lle mae’n arwain y rhaglen Cymrodorion Athrawon sy’n Addysgwyr. Mae hefyd yn astudio ar gyfer PhD mewn Polisi Cyhoeddus yng Ngholeg y Brenin, Llundain.

Partneriaid ychwanegol y prosiect

Mae’r Athro Jonathan Sharples, Cymrawd Ymchwil Athro yn y Sefydliad Gwaddol Addysg, yn cynghori’r prosiect. Bu cydweithwyr yn y Sefydliad Gwaddol Addysg yn adolygu’r ymyriadau dal i fyny a briffiadau polisi datblygiad proffesiynol athrawon.

Mae Dr Carina Girvan, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yn gyd-awdur ar y briffiad polisi addysgu a dysgu cyfunol.

Tagiau