Cynyddu cyfraniad dinesig prifysgolion i’r eithaf

Lleoliad Ystafell Preseli, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd, CF10 5AL
Tocynnau Bwciwch yma
Dyddiad 13 Tachwedd 2018

Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn cynnal digwyddiad i gyflwyno a thrafod adroddiad arbenigol sydd ar fin cael ei gyhoeddi, gan yr Athro John Goddard a’r Athro Ellen Hazelkorn.

Mae’r adroddiad yn trin a thrafod y dewisiadau polisi sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn diffinio ac annog cenhadaeth ddinesig ar draws addysg drydyddol. Mae hefyd yn edrych ar y camau mae llywodraethau gwledydd eraill wedi’u cymryd, a pha fath o system addysg drydyddol ddinesig y gallem ei chael yng Nghymru.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfraniadau gan:

  • Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • Yr Athro Emeritws John Goddard, Athro Astudiaethau Datblygu Rhanbarthol ym Mhrifysgol Newcastle.
  • Yr Athro Ellen Hazelkorn, Cyfarwyddwr Uned Ymchwil Polisi Addysg Uwch yn Sefydliad Technoleg Dulyn.

Ein nod yw rhannu syniadau, ysgogi trafodaeth a rhannu tystiolaeth ryngwladol o arferion gorau. Bydd sesiwn holi ac ateb ar ol y cyflwyniadau, ac rydym yn siŵr y cawn drafodaeth fywiog.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored, ond gofynnwn i chi gadarnhau eich lle drwy gofrestru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Craig Johnson drwy ebostio craig.johnson@wcpp.org.uk