Beth sy’n Gweithio wrth Heneiddio’n Well?

Lleoliad Ystafell Bwyllgor 2, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS
Tocynnau Bwciwch yma
Dyddiad 24 Chwefror 2020

Mae dros 650,000 o bobl dros 65 oed yng Nghymru, sy’n cynrychioli 21% o boblogaeth Cymru.  Mae sicrhau bod Cymru’n lle da i heneiddio yn flaenoriaeth i’r llywodraeth, i wasanaethau cyhoeddus ac i gymunedau.  Mae rhaglen y Comisiynydd Pobl Hŷn ‘Heneiddio’n Dda yng Nghymru’ a Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru (2013-2023) ‘Byw’n hwy, heneiddio’n dda’ yn dangos bod awydd i wella bywydau pobl hŷn yng Nghymru, yn awr ac yn y dyfodol.

Bydd y digwyddiad yng ngofal Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a SPARK, a bydd Dr Anna Dixon, Prif Weithredwr y Ganolfan Heneiddio’n Well, yn edrych ar ba newidiadau sy’n angenrheidiol o ran polisi ac ymarfer i greu cymdeithas lle mae pawb yn mwynhau bywyd wrth heneiddio.  Bydd hi’n siarad am y dystiolaeth a’r ddealltwriaeth a gafwyd o waith Heneiddio’n Well mewn meysydd megis cyflogaeth, iechyd, tai a chymunedau, yn ogystal â gwaith ehangach ar wahaniaethu ar sail oed.

Bydd hi’n trafod yn gryno rôl Heneiddio’n Well fel Canolfan ‘What Works’ a sut maen nhw’n defnyddio tystiolaeth i gyflawni newid, yn ogystal â chefnogi arloesedd a gweithredu.

Dilynir anerchiad Anna gan drafodaeth panel gyda Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac Dr Martin Hyde, Athro Cysylltiol Gerontoleg ym Mhrifysgol Abertawe, a sesiwn Holi ac Ateb, gyda chyfle i archwilio perthnasedd gwaith Heneiddio’n Well i flaenoriaethau yng Nghymru.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn brin, felly gofynnwn i chi gofrestru.