Beth sy’n Gweithio i Wella Cydnerthedd a Llesiant Cymunedol

Dyddiad 23 Mawrth 2018

Ar 22 Chwefror, gwnaethom gynnal digwyddiad gyda chynrychiolwyr y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn ystyried sut y gall y Ganolfan helpu i ddarparu tystiolaeth i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Roeddem hefyd am roi dwy thema i gyfranogwyr feddwl amdanynt, sy’n ffocws i bob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ôl pob golwg, i raddau amrywiol: cydnerthedd cymunedol a llesiant cymunedol.

Llesiant a Chymunedau: Beth yw llesiant unigol a chymunedol, a sut y gallwn ei fesur a’i wella?

Mae Ingrid Abreu Sherer (Rheolwr Rhaglenni yn What Works Centre for Wellbeing) yn trafod beth yw llesiant, sut mae llesiant unigol yn effeithio ar lesiant cymunedol a beth y gall Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ei wneud i helpu i wella llesiant cymunedol.

Cydnerthedd Cymunedol – Beth mae cydnerthedd yn ei olygu a sut mae’n effeithio ar y ffordd y mae sefydliadau’n gweithio gyda phobl a chymunedau?

Mae Dr Adrian Healy (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd) yn ystyried cysyniad cydnerthedd ac yn ymchwilio i’r goblygiadau ar gyfer dulliau gwasanaethau cyhoeddus o weithio gyda chymunedau, gan ddefnyddio ei brofiad o weithio yng Nghymru a ledled y byd.