Gallai datganoli nawdd cymdeithasol i Gymru fod yn fuddiol ond daw hefyd heriau sylweddol yn sgil hyn

Gallai datganoli’r weinyddiaeth nawdd cymdeithasol i Gymru gynnig manteision ariannol a gwella canlyniadau i hawlwyr, ond byddai’n broses gymhleth a hir a byddai risgiau sylweddol cysylltiedig.

Mae adroddiad newydd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP) ym Mhrifysgol Caerdydd yn casglu tystiolaeth am y manteision posibl a’r risgiau. Mae’r ymchwilwyr, gan ddefnyddio profiadau’r Alban a Gogledd Iwerddon, yn argymell bod llunwyr polisïau yng Nghymru yn defnyddio dull pedwar cam i bennu’r canlynol:

  1. Pa ganlyniadau fyddai datganoli’r weinyddiaeth nawdd cymdeithasol yn ceisio eu cyflawni? Gellir defnyddio hyn i lywio penderfyniadau ynghylch pa newidiadau y gellid eu gwneud ac y gellir eu mynegi trwy set o egwyddorion craidd sy’n sail i ddull Cymru o ymdrin â nawdd cymdeithasol.
  2. Yn y system bresennol, beth sy’n atal Cymru rhag cyflawni’r canlyniadau hynny? Mae hyn yn golygu nodi pa fudd-daliadau a allai gael eu diwygio, a sut maen nhw’n cael eu gweinyddu ar hyn o bryd.
  3. Sut gellir newid y system bresennol i gyflawni’r canlyniadau hyn? Er enghraifft, defnyddio dull mwy cyson i weinyddu nawdd cymdeithasol, roi mwy o gymorth i hawlwyr, ail-lunio budd-daliadau neu greu rhai newydd.
  4. Beth fyddai goblygiadau’r newidiadau hyn o ran polisi? Yn ogystal â’r goblygiadau cyfreithiol ac ariannol i Lywodraeth Cymru (megis newidiadau i’r cytundeb datganoli), mae angen ystyried risgiau goblygiadau anfwriadol a galw newidiol am fudd-daliadau yn ofalus.

 

Meddai Emma Taylor-Collins, cyd-awdur adroddiad WCPP:

“Mae datganoli agweddau ar weinyddiaeth nawdd cymdeithasol yn rhoi cyfle i Gymru gymryd rheolaeth dros rannau o’n system les sy’n cael effaith sylweddol ar fywydau pobl yng Nghymru. Ond cyn gwneud unrhyw ymgais i newid y system bresennol, mae’n hanfodol ein bod ni’n glir o ran yr hyn rydym ni eisiau ei gyflawni yng Nghymru a’r rheswm dros hynny. Bydd hynny’n helpu i lywio penderfyniadau ynghylch yr hyn sydd angen ei newid a sut i wneud hynny.”

Dywedodd Dan Bristow, cyd-awdur adroddiad WCPP:

“Gall Cymru ddysgu llawer gan ddulliau datganoli nawdd cymdeithasol yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Manceinion Fwyaf. Er bod y dystiolaeth yn awgrymu y gallai fod manteision posibl o ganlyniad i ddatganoli agweddu ar weinyddiaeth nawdd cymdeithasol, ni ddylem anwybyddu maint yr her, yr amser y gallai ei gymryd i roi unrhyw newidiadau ar waith, neu’r risgiau o oblygiadau anfwriadol.”