Bydd cynlluniau mewnfudo Llywodraeth y DU ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit yn arafu twf economaidd a chynhyrchiant yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd a phwysig gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru.
Mae arbenigwyr o Goleg y Brenin, Llundain a Phrifysgol Rhydychen wedi edrych ar effeithiau’r cynigion mewnfudo ar Gymru yn y Papur Gwyn Whitehall diweddar. Daeth y canlynol i’r amlwg:
- Byddai’r cynigion yn lleihau GDP yng Nghymru rhwng 1.1% ac 1.6% dros 10 mlynedd, o’i gymharu ag ergyd o rhwng 1.4% a 1.9% i’r DU yn ei chyfanrwydd.
- Disgwylir cwymp dramatig yn nifer yr ymfudwyr ar gyflog isel o’r EU i’r DU, gyda gostyngiad llai o ran yr ymfudwyr ar gyflog canol-uwch.
- Er bod yr effaith a ragwelir ar economi Cymru yn llai nag ar gyfer y DU yn gyffredinol, bydd Cymru’n cael ei heffeithio’n fwy gan y toriad yn nifer y bobl sy’n ymfudo i weithio;
- Byddai lleihau’r trothwy cyflog arfaethedig i £20,000 yn lleihau’r effaith ar GDP i rhwng -0.8% a -1.2% dros 10 mlynedd;
- Mae gweithgynhyrchu, addysg, gweithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd ymhlith y sectorau sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y cynigion – sy’n debyg yn gyffredinol i’r effaith ar y DU gyfan.
Amcangyfrifir bod tua 50,000 o weithwyr llawn-amser Cymru yn dod o wledydd eraill yr UE, gyda thua 65% o’r rhai hynny yn ennill o dan y trothwy cyflog £30,000 arfaethedig ar hyn o bryd.
Dywedodd yr Athro Jonathan Portes, cyd-awdur yr adroddiad WCPP:
“Er nad yw’r cynigion hyn yn effeithio ar economi Cymru i raddau mor eithafol o’u cymharu â’r DU yn ei chyfanrwydd, bydd yr effaith negyddol yn sylweddol o hyd.
“Dylai ceisio lleihau’r trothwy cyflog ar gyfer mudwyr o’r UE i £20,000 fod yn flaenoriaeth, ond ni fyddai hynny ar ei ben ei hun yn osgoi effaith negyddol sylweddol ar economi Cymru.
“Mae proses gyflym, effeithiol a fforddiadwy o gyflwyno fisâu hefyd yn bwysig i wneud yn siŵr bod mewnfudwyr yr UE yn gallu parhau i ddod i Gymru.”