Dysgu gydol oes yw’r allwedd i ryddhau potensial llawn Cymru

Dylai Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru (CTER) ganolbwyntio’n benodol ar ddysgu gydol oes, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.

Mae’r astudiaeth, gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP), yn galw am wella hawliau ym maes cyrchu addysg, hyfforddiant a dysgu cymunedol. Dylai’r hawliau gael eu cefnogi gan gyngor gyrfaol ar adegau allweddol wrth i fywydau pobl newid a dylai cyllid mwy pwrpasol gan y llywodraeth fod ar gael at y dibenion hyn.

Dywed yr ymchwilwyr y bydd y mesurau hyn yn helpu i fynd i’r afael â heriau economaidd gan gynnwys perfformiad cynhyrchiant isel Cymru, cyfraddau uchel o anweithgarwch economaidd ac yn cyfrannu at ragor o iechyd a lles.

Nod yr adroddiad yw cyfrannu at benderfyniadau polisi a chefnogi’r gwaith o weithredu’r CTER, a fydd yn cael ei sefydlu’n rhan o Fil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2021.

Dyma a ddywedodd Helen Tilley, Uwch-gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: “Mae’r Bil Addysg Drydyddol yn dwyn ynghyd byd addysg uwch, addysg bellach a dysgu i oedolion o dan un corff rheoleiddio am y tro cyntaf yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ymgorffori ffyrdd newydd o gydweithio ar draws  sefydliadau a rhyngddyn nhw yn ogystal â’r Comisiwn a Llywodraeth Cymru er mwyn diwallu orau y gellir anghenion unigolion, cymdeithas a’r economi.

“Mae ein hadroddiad yn dangos sut mae canolbwyntio ar ddysgu gydol oes yn hynod bwysig i ddiwallu anghenion o’r fath sy’n newid yn gyson oherwydd digwyddiadau megis Brexit, pandemig y coronafeirws a’r argyfwng yn yr hinsawdd. Mae datblygiadau technolegol ym maes deallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio yn ogystal â bywydau gwaith hirach ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol yn golygu bod mwy o angen i bobl hyfforddi o’r newydd wrth i sgiliau pobl fynd yn hen ffasiwn.”

Dadansoddodd yr ymchwilwyr y data presennol ynghylch canlyniadau dysgu gydol oes, gan ymgynghori ag arbenigwyr yn y sector, cynnull panel o lunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill, a chynnal bord gron â Llywodraeth Cymru.

Canfuon nhw fod sgiliau sylfaenol oedolion yng Nghymru yn cymharu’n wael â gweddill y DU, a bod y data’n dangos bod bron i chwarter yr oedolion heb gymhwyster lefel 2 – sy’n cyfateb i TGAU â graddau A*-C – ac nad oes gan mwy na hanner y sgiliau digidol hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer gwaith.

Mae nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn addysg i oedolion hefyd yn dirywio, tuedd a allai ychwanegu at heriau hirsefydlog o ran diffygion llythrennedd a sgiliau oedolion, rhybuddia’r ymchwilwyr.

Dyma a ddywedodd arweinydd yr astudiaeth, Dr Susan Pember CBE, Cyfarwyddwr Polisïau HOLEX: “Ar adeg heriau economaidd a chymdeithasol sylweddol gan gynnwys newid yn yr hinsawdd ac adfer yn sgîl pandemig y coronafeirws, mae dysgu gydol oes yn bwysicach i Gymru nag erioed.

“Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at sut y gall Cymru greu system dysgu gydol oes sy’n addas ar gyfer y dyfodol tra’n mynd i’r afael â materion sy’n bodoli eisoes megis bylchau o ran sgiliau a etifeddir. Bydd hyn yn gofyn am ddull gweithredu ar y cyd sy’n mynd y tu hwnt i’r sector addysg ac a gaiff ei gyflwyno ar y cyd â rhwydwaith o bartneriaethau lleol gan gynnwys sefydliadau cymunedol a’r sector gwirfoddol, darparwyr preifat a byd llywodraeth leol.”

Er mwyn cynyddu’r nifer sy’n manteisio ar ddysgu gydol oes, mae ymchwilwyr yn dweud y dylai cyllid y llywodraeth fod ar gael i grwpiau sydd â’r angen mwyaf am gymorth ariannol, megis y rheiny sydd â sgiliau hanfodol gwael; pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed; pobl ddi-waith a’r rheiny sydd mewn perygl o gael eu diswyddo.

Dyma a ddywedodd Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, ac rwy’n ddiolchgar am y gwaith o ran ei ddatblygu. Rydyn ni wedi ymrwymo i ehangu dysgu gydol oes yng Nghymru, a bydd ei hyrwyddo yn un o ddyletswyddau strategol y Comisiwn newydd.

“Byddwn ni’n ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad ac yn edrych ar sut y gallant lywio ein gwaith i gynyddu nifer yr oedolion sy’n dysgu yng Nghymru, ynghyd â rhoi ein Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil ar waith a sefydlu’r Comisiwn.”

Darllenwch yr adroddiad: Cefnogi System Dysgu Gydol Oes Cymru