Dyfodol Gwaith yng Nghymru

Bydd mwy o ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial a roboteg yn newid y mathau o swyddi sydd ar gael yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf yn aruthrol.

Mae adroddiad Dyfodol Gwaith yng Nghymru yn awgrymu y gall technoleg newydd wella cynhyrchiant a rhyddhau gweithwyr o dasgau ailadroddus a pheryglus, ond y gallai hefyd olygu y bydd nifer fawr o’r swyddi presennol yn diflannu ac y bydd arferion cyflogaeth yn newid mewn ffyrdd sy’n rhoi gweithwyr heb sgiliau dan anfantais. Mae’r adroddiad yn dadlau y dylid cynnig cymorth i weithwyr yng Nghymru i’w helpu i ddatblygu sgiliau sy’n anodd eu hawtomeiddio, megis creadigrwydd a meddwl yn feirniadol, sgiliau y bydd galw amdanynt yn yr economi ddigidol yn y dyfodol.

Meddai’r Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru: “Canfyddiad ein hadroddiad yw y gallai deallusrwydd artiffisial drawsnewid y byd gwaith yng Nghymru.

“Bu tipyn o sôn am dueddiadau’n fyd-eang, ond mae angen i ni ddatblygu dealltwriaeth well o’r ffordd y bydd datblygiadau ym maes technoleg yn effeithio ar economi Cymru er mwyn i ni allu paratoi ar gyfer dyfodol lle y gall rhai swyddi fod yn wahanol iawn i rai heddiw.

“Mae angen i weithwyr yma ddatblygu’r sgiliau i addasu i’r newidiadau hyn, ac mae i hyn oblygiadau pwysig o ran yr hyn sy’n cael ei addysgu gan ysgolion, cyngor ar yrfaoedd, dysgu gydol oes, hyfforddiant mewn gwaith ac ailhyfforddi.”

Lansiwyd yr adroddiad ar 1 Tachwedd yn ystod digwyddiad a noddwyd gan Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC. Ymhlith y siaradwyr arbenigol roedd: Matthew Taylor, Prif Weithredwr Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ac awdur ‘Good Work: The Taylor Review of Modern Working Practices’ a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, a siaradodd am raglen y Gymdeithas ar Ddyfodol Gwaith; a Stijn Broecke, Uwch Economegydd mewn Cyflogaeth, Llafur a Materion Cymdeithasol yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a siaradodd am raglen ymchwil y Sefydliad i ddyfodol gwaith.