Diwedd cyfnod pontio Brexit yn nodi “cyfnod o aflonyddwch sylweddol” i economi Cymru

Mae angen mwy o gefnogaeth y tu hwnt i gyfnod pontio Brexit ar fusnesau mewn rhai sectorau allweddol yn economi Cymru.

Mae adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn dod i’r casgliad y bydd busnesau’n wynebu “cyfnod o aflonyddwch sylweddol” o 1 Ionawr, gydag addasiadau tymor hir gan gynnwys buddsoddi mewn arloesedd traws-sector yn ogystal ag ymchwil a datblygu yn angenrheidiol er budd iechyd yr economi yn y dyfodol. Ychwanegodd, “bydd gallu’r busnesau i ymdopi ac ymateb yn hanfodol er mwyn iddynt oroesi a ffynnu.”

Mae’r ymchwilwyr yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru annog camau i ailsgilio a mwy o swyddi ym meysydd tollau, seilwaith digidol a logisteg er mwyn ymdopi â’r ymchwydd disgwyliedig yn y galw gan fusnesau.

Mae hefyd yn argymell bod angen rhoi cyllid brys i fusnesau mewn sectorau fel amaethyddiaeth a physgodfeydd, moduron a gwyddorau bywyd, sy’n dibynnu ar brosesau hwylus ar draws ffiniau oherwydd gallai oedi mewn porthladdoedd effeithio arnynt yn wael.

Mae Helen Tilley yn Uwch-gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. “Er ein bod yn gobeithio y bydd cytundeb, sef y canlyniad gorau i Gymru, mae cael cytundeb mor agos at ddiwedd y cyfnod pontio yn golygu mai ychydig iawn o amser fydd gan fusnesau i ddeall yr effaith ar weithgareddau o ddydd i ddydd. Gan na fydd hyn yn gadael llawer o amser iddynt baratoi ar gyfer y newidiadau i ddod yn 2021, y gobaith yw y bydd modd cael cyfnod ychwanegol i ragor o fusnesau fydd angen amser i baratoi. ”

“Bydd arweiniad ymarferol a chymorth ariannol brys yn hanfodol os yw busnesau am barhau i weithredu’n effeithiol. Mae sectorau eisoes yn gweithio i liniaru effaith Covid-19, ond mae’r aflonyddwch yn waeth erbyn hyn a bydd yr effeithiau i’w teimlo am amser hir i ddod.”

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau o adolygiad tystiolaeth, gan ddadansoddi goblygiadau’r cyfnod o newid i’r sectorau allweddol yn economi Cymru.

Dangosodd y bydd angen mwy o gefnogaeth ar sectorau allweddol i gynnal a gwella eu sefyllfa, yn enwedig y rhai sy’n cynhyrchu nwyddau cydrannol – gan gynnwys moduron, awyrofod a dur – a’r rheini sy’n allforio cynnyrch ffres i’r Undeb Ewropeaidd, megis amaethyddiaeth a physgodfeydd.

Dywed ymchwilwyr fod eu canfyddiadau hefyd wedi tynnu sylw at oblygiadau cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer marchnad fewnol y DU i Gymru.

Dywedodd Dr Tilley: “Mae cyflwyno fframweithiau cyffredin ddydd Mawrth i Fil y Farchnad Fewnol yn gydnabyddiaeth bwysig o’r setliad datganoledig yn y DU. Fodd bynnag, mae’n dal i ganiatáu i Lywodraeth y DU ddiystyru Llywodraeth Cymru mewn rhai meysydd felly bydd angen rhoi sylw parhaus i’r manylion.”